Gwobrau yn dangos y gorau yn sector ffyniannus digidol Cymru wedi eu lansio

Mae gwobrau sy’n dangos y gorau yn sector ffyniannus digidol Cymru wedi eu lansio.

Nawr yn eu trydydd blwyddyn, bydd Gwobrau Digidol WalesOnline 2019, yn cydnabod busnesau ac entrepreneuriaid sy’n gwneud cyfraniad eithriadol i’r sector.

Eleni, y prif noddwr yw Admiral Group.

Mae’r 14 categori yn cynnwys busnes digidol newydd y flwyddyn, ap y flwyddyn, asiantaeth ddigidol (newydd) y flwyddyn a’r cwmni rhyngwladol gorau.

Ceisiadau erbyn Ebrill 28ain

Seremoni wobrwyo: Mehefin 7fed, Tramshed, Caerdydd

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i wneud cais 

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 18th Mawrth 2019