Comparison Creator o Springboard yng Nghwmbrân yn ennill cytundeb label gwyn newydd

Yn ôl Insider Media, mae’r cwmni technoleg cymharu prisoedd o Gwmbrân, Comparison Creator, wedi cytuno ar gytundeb i ddarparu gwasanaethau i Money.co.uk.

Bydd y cwmni’n darparu gwasanaethau cymharu a fydd yn cynnwys yswiriant ar declynnau, yswiriant car yn methu ac yswiriant argyfwng yn y cartref i Money.co.uk sy’n cefnogi arbedion i gwsmeriaid ar gardiau credyd, benthyciadau, morgeisi ac ati.

Dywedodd Prif Weithredwr Comparison Creator, Steve Jones: "Rydym ni’n hynod o falch bod Money.co.uk wedi dewis gweithio gyda Comparison Creator a darparu gwasanaethau cymharu yswiriant ar gyfer methiant ceir, argyfwng yn y cartref a theclynnau ar gyfer eu cwsmeriaid.”

Darllenwch fwy yn Insider Media

Mae Comparison Creator wedi eu lleoli yng Nghanolfan Arloesi Busnes Springboard ~ Cymru, Parc Llantarnam, Cwmbrân. Mae’r ganolfan yn annog ac yn cefnogi busnesau gwyddoniaeth a thechnoleg sy’n tyfu’n fawr.  Mae Springboard yn cynnig y dechnoleg ddiweddaraf, lleoliad hygyrch iawn a gwasanaethau cefnogi busnes ardderchog ac yn cynnig diwylliant deinamig i fusnesau ffynnu a thyfu.

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 3rd Mai 2019