Douglas Willis o Gwmbrân yn Gigydd Cymreig y Flwyddyn

Willis butchers_ (002)

 

Yn ôl y Pontypool Free Press,  mae teulu o gigyddion o Gwmbrân wedi dangos eu bod yn rhagori ar y lleill y mis yma, pan goronwyd eu siop y gorau yng Nghymru. Enwyd Douglas Willis fel Siop Cigydd Cymreig y Flwyddyn mewn seremoni wobrwyo ar gyfer y DU gyfan yn Llundain, a gynhaliwyd gan William Reed Business Media.

Cyflwynwyd y wobr i Peter Willis, ŵyr Douglas Willis. Mae’r busnes wedi bod yn nwylo tair cenhedlaeth o’r teulu ers ei sefydlu yn 1940.

Darllenwch fwy yma 

 

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 27th Tachwedd 2019