Gwesty'r Lion, Blaenafon, yn Llawlyfr Bwytai 2020 yr AA

Lion Hotel

Yn ôl y Pontypool Free Press, mae gwesty’r Lion ym Mlaenafon ymhlith y bwytai sydd wedi eu hychwanegu at Lawlyfr Bwytai'r AA ar gyfer 2020.

Mae’r llawlyfr yn cynnwys y bwytai gorau oll, profiadau ciniawa cain a thai bwyta lleol.

Mae 140 o leoedd newydd wedi eu cynnwys yn y llyfr ar gyfer 2020 -  y 27ain rhifyn o’r llawlyfr.

Mae’n cynnwys dros 2,000 o fwytai y mae pob un wedi cael eu gwobrwyo am ragoriaeth mewn bwyd gan arolygwyr proffesiynol yr AA.

Darllenwch fwy yma

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 23rd Hydref 2019