Cwmni Gweithgynhyrchu o Dorfaen, Super Rod, yn ennill mewn Gwobrau Albanaidd

Superrod

Yn ôl Manufacturing News Wales, mae teclyn arloesol sy’n cyfuno camera i archwilio a theclyn tynnu ceblau wedi ennill Gwobr Cynnyrch Newydd Gorau i gwmni Super Rod o Flaenafon mewn seremoni gyda SELECT, cymdeithas fasnach fwyaf yr Alban.

Dewisodd y corff, sy’n ymgyrchu ar ran y sector electrodechnegol yn yr Alban, Super Rod fel enillydd categori sy’n dangos sut mae’r diwydiant trydanol yn cwrdd â heriau technoleg sy’n fwyfwy soffistigedig a chymhleth.

Darllenwch fwy yma

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 21st Hydref 2019