Gwagle Swyddfa Ar Ei Newydd Wedd yn cael ei lansio ym Mhont-y-pŵl

Mamhilad-Park-Estate-Aerial-Site-Photo

 

Yn ôl Business News Wales, mae un o barciau busnes mwyaf De Cymru, Ystâd Parc Mamheilad, Pont-y-pŵl, wedi lansio’r gyfres ddiweddaraf o ofod swyddfa o ansawdd uchel ar ei newydd wedd yn barod i groesawu deiliaid newydd.

Saif Ystâd Parc Mamheilad ar 80 erw mewn ardal wledig ddeniadol ar ffiniau Torfaen a Sir Fynwy ar yr A4042 ac mae'n cynnig cysylltiadau ffordd da.

Mae'r ystâd sydd o ddefnydd cymysg yn cynnwys tua 1.2 miliwn troedfedd sgwâr o ofod diwydiannol a 300,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa, gyda digon o dir i allu ehangu.

Darllenwch mwy ar Business News Wales 

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 4th Medi 2019