Grant Busnesau Newydd Torfaen: Ceisiadau nawr ar agor

 TEE Covid Start Up Grant WELSH2

Grant yw hwn i ddarparu cymorth ariannol i fusnesau sydd newydd eu creu sy'n wynebu heriau gweithredol ac ariannol o ganlyniad i'r argyfwng COVID-19.

Diben y grant yw cefnogi busnesau newydd gyda chymorth llif arian ar unwaith i'w helpu i oroesi canlyniadau economaidd COVID-19. Mae'r grant yn ceisio ategu mesurau eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru mewn ymateb i COVID-19.

Mae'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y grant fel a ganlyn:

Wedi dechrau masnachu rhwng 1 Ebrill 2019 ac 1 Mawrth 2020

Trosiant blynyddol / rhagweladwy yn debygol o fod yn llai na £50,000

Heb fod yn derbyn Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig, y Grant Ardrethi Annomestig, y Gronfa Cadernid Economaidd

Rhaid i fusnesau fod yn gweithredu yng Nghymru

Rhaid i fusnesau gael un neu fwy o'r canlynol

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr CThEM
  • Rhif Cofrestru TAW neu dystysgrif eithrio TAW
  • Gohebiaeth ysgrifenedig yn cadarnhau ei fod wedi cofrestru gyda CThEM

Wedi profi gostyngiad o fwy na 50% mewn trosiant o ganlyniad i'r achosion o COVID-19 rhwng Ebrill a Mehefin 2020

Rhaid i fusnesau sy'n cael cymorth geisio cynnal swyddi am 12 mis

 

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru i gael cymorth gyda gwasanaeth Busnes Cymru unwaith y dyfernir y grant

 I gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn, darllenwch Ganllawiau'r Grant Cychwyn Busnes

Mae’r Gwiriwr Cymhwystra ar gyfer y grant i’w weld yma

Gellir gwneud ceisiadau o’r 29ain Mehefin 2020 drwy’r

https://iweb.itouchvision.com/portal/f?p=customer:category_link:::::CUID,LANG:A8EE6F20C0EE01F7802E0553914601A8EC0D0EF0,CY&P_LANG=cy

Mae Hysbysiad Preifatrwydd Economi a Mentergarwch Torfaen i’w weld ar waelod y dudalen hon

  Tanysgrifiwch i dderbyn bwletinau gwybodaeth rheolaidd, a'r diweddaraf gan Economi a Mentergarwch Torfaen i'ch e-bost

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 29th Mehefin 2020