£26 miliwn i helpu elusennau bach yng Nghymru

Money

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd miloedd o elusennau bach yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael grant cymorth busnes gwerth £10,000 i’w helpu i ymateb i heriau ariannol COVID-19.

Bydd y pecyn newydd hwn, gwerth £26 miliwn yn cefnogi 2,600 o eiddo ychwanegol gyda gwerth trethadwy o £12,000 neu lai.

Mae hyn yn cynnwys:

  • siopau elusen
  • eiddo chwaraeon
  • canolfannau cymunedol

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.

Ffynhonnell: Business Cymru

Tanysgrifiwch i dderbyn bwletinau gwybodaeth rheolaidd, a'r diweddaraf gan Economi a Mentergarwch Torfaen i'ch e-bost

 

 

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 11th Mai 2020