£40m o hwb ar gyfer busnesau cychwynnol blaengar

s300_beis-sign-1vs

Mae cyfle i fusnesau arloesol a chychwynnol ar draws Cymru elwa o fuddsoddiad gwerth £40miliwn gan Lywodraeth y DU gyda’r bwriad o gyflymu datblygiad cynnyrch arloesol o ganlyniad i argyfwng Coronafirws.

Mae Ysgrifennydd Busnes y DU, Alok Sharma, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth y DU yn dyblu buddsoddiad yng Nghystadleuaeth Fast Start gyda £20 miliwn o bunnoedd yn ychwanegol.

Ymhlith y busnesau sydd wedi derbyn arian eisoes yng Nghymru mae Instructor Guru yng Nghwmbrân sy’n ceisio modelu cymhwysiad digidol i hwyluso’r defnydd o feddalwedd Instructor Guru ar gyfer rheoli adferiad orthopaedig o bell, ac yn fwy cost-effeithiol, gan wella gofal i gleifion yr un pryd.

Dywedodd Peter Bishop, Sylfaenydd, “Rydym yn falch fod Innovate UK, asiantaeth arloesi’r DU, wedi dewis ein cefnogi i ddatblygu atebion, gan ddefnyddio DA i helpu cleifion a darparwyr gofal gyda’r broses adfer orthopaedig.”

 Mae rhagor o wybodaeth am y gronfa yma

Tanysgrifiwch i dderbyn bwletinau gwybodaeth rheolaidd, a'r diweddaraf gan Economi a Mentergarwch Torfaen i'ch e-bost

 

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 27th Mai 2020