Yr hyn mae ein haelodau yn ei ddweud

Dyma rhai tystebau gwych am Lais Busnes Torfaen. Darllenwch yr hyn sydd gan ein haelodau i’w ddweud ...

"Rydym wedi bod yn aelodau o Lais Busnes Torfaen am dair blynedd ac mae’n brofiad tra defnyddiol. Rydym wedi mynychu  bron i bob un o’r digwyddiadau ac roedd y siaradwyr gwadd yn ysbrydoledig. Rydym wedi mwynhau’r gweithgareddau rhwydweithio defnyddiol a diddorol a oedd wedi eu trefnu’n rhagorol. Pan ymunom am y tro cyntaf, roeddem yn teimlo efallai y byddem allan o ddyfnder am mai busnes bach oeddem ni, ond nid dyna oedd yr achos o gwbl. A’r hyn sydd yn ein synnu yw bod cymaint o fusnesau fel ein busnes ni, yn brwydro yn erbyn lefel o gystadleuaeth a heriau ariannol. Calonogol iawn oedd cael y cyfle i rannu profiadau a dysgu gan eraill. Mae’r aelodaeth yn werth rhagorol am arian." Steve Marsh, The Balloon Experience

’Ymunais â Llais Busnes Torfaen nifer o flynyddoedd yn ôl ond ar y pryd roeddwn yn nerfus iawn ac yn newydd i’r byd rhwydweithio. Serch hynny, medraf ddweud gyda gonestrwydd bod yr aelodau yn gyfeillgar iawn ac yn gwneud i chi deimlo’n gyfforddus. Mae’r grŵp hwn wedi meithrin fy hyder ac wedi f’annog i siarad gyda phobl, gan arwain at gynnydd mewn gwerthiannau - bonws. Medraf nawr fynd at bobl i siarad, yn hytrach nag eistedd yno yn aros i bobl ddod i siarad gyda mi. Buaswn yn argymell i unrhyw un sy’n ystyried ymuno i ddod draw i un o’n cyfarfodydd chwarterol i weld drostynt eu hunain.' Vicki Daley, AVA Fire & Security

"Mae Llais Busnes Torfaen yn gyfle gwych i bobl fusnes o’run anian i rwydweithio a chreu cysylltiadau. Bu’n blatfform ardderchog i ni yn Solar Buddies i ddechrau rhwydweithio acmae’r gefnogaeth yr ydym wedi cael gan fusnesau lleol achyfagos wedi bod yn amhrisiadwy. Pan ymunon ni yn 2015roddem ni’n fusnes newydd gyda’n golygon yn uchel onddoedd hynny ddim yn gwneud y syniad o rwydweithio’n hawso gwbl, ond yn ffodus i ni roedd yr aelodau yn groesawgar acyn gyfeillgar iawn. Cawsom lawer o gyngor o sectoraugwahanol ac mae yna amrywiaeth eang o fusnesau sy’naelodau. O ddylunwyr y we i gyfreithwyr i werthwyr tai agwneuthurwyr teisennau! Os oes angen help neu gymorth ateich busnes mae’n siŵr o fod ar gael yn un o ddigwyddiadauLlais Busnes Torfaen." Kelli Aspland & Laura Griffin, Solar Buddies

Darganfyddwch mwy am Glwb Busnes Torfaen ac ymunwch heddiw.