Grant Busnesau Newydd Torfaen

NAWR WEDI EU DYRANNU'N LLAWN (AR GAU)
Grant yw hwn i ddarparu cymorth ariannol i fusnesau sydd newydd eu creu sy'n wynebu heriau gweithredol ac ariannol o ganlyniad i'r argyfwng COVID-19.
Diben y grant yw cefnogi busnesau newydd gyda chymorth llif arian ar unwaith i'w helpu i oroesi canlyniadau economaidd COVID-19. Mae'r grant yn ceisio ategu mesurau eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru mewn ymateb i COVID-19.
Mae'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y grant £2,500 fel a ganlyn:
- Wedi dechrau masnachu rhwng 1 Ebrill 2019 ac 1 Mawrth 2020
- Trosiant blynyddol / rhagweladwy yn debygol o fod yn llai na £50,000
- Heb fod yn derbyn Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig, y Grant Ardrethi Annomestig, y Gronfa Cadernid Economaidd
- Rhaid i fusnesau fod yn gweithredu yng Nghymru
Rhaid i fusnesau gael un neu fwy o'r canlynol
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr CThEM
- Rhif Cofrestru TAW neu dystysgrif eithrio TAW
- Gohebiaeth ysgrifenedig yn cadarnhau ei fod wedi cofrestru gyda CThEM
Wedi profi gostyngiad o fwy na 50% mewn trosiant o ganlyniad i'r achosion o COVID-19 rhwng Ebrill a Mehefin 2020.
Rhaid i fusnesau sy'n cael cymorth geisio cynnal swyddi am 12 mis.
I gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn, darllenwch Ganllawiau'r Grant Cychwyn Busnes
Mae Hysbysiad Preifatrwydd Economi a Mentergarwch Torfaen i’w weld ar waelod y dudalen hon