Rydym ni, a'n partneriaid, yn gosod cwcis a chasglu gwybodaeth o'ch porwr i roi cynnwys gwefan i chi a deall cynulleidfaoedd gwe. Gweler ein polisi preifatrwydd i ddysgu mwy am sut rydym yn rheoli eich data a'ch hawliau. Gweler ein polisi cwcis i ddeall sut rydym yn defnyddio cwcis a thechnoleg olrhain.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda busnes a diwydiant i gael cyflenwadau o gyfarpar critigol, gan gynnwys cynhyrchion glanhau a PPE i weithwyr rheng flaen sy'n wynebu prinder yn ystod yr achosion o COVID 19.
Os ydych yn gyflenwr PPE neu offer hanfodol eisoes neu os ydych yn gallu darparu unrhyw gymorth ychwanegol ar weithgynhyrchu, ail-greu cynhyrchion neu arloesi, cysylltwch â'r Ganolfan Gwyddor Bywyd drwy eu porth arloesi: https://lshubwales.com/call-industry-collaboration-fight-coronavirus
Cefnogi adeiladu ychwanegol a llety dros dro ar gyfer y GIG
Dylai unrhyw gyflenwyr sy'n gallu cynnig cymorth yn benodol ar gyfer cynllunio, adeiladu a gweithredu llety ychwanegol/dros dro ar gyfer y GIG gofrestru eu diddordeb yn HSS. COVID-19. PlanningCell@gov.Cymru
Ar gyfer unrhyw gynigion eraill o gefnogaeth
Os rydych yn gallu cynnig unrhyw gymorth arall, nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig ag offer meddygol neu PPE, hoffai ein timau rhanbarthol glywed gennych. Byddwn yn nodi pob cynnig ar lefel ranbarthol a lleol. I gofrestru cynigion o'r math yma, a wnewch gwblhau y ffurlen arlein canlynol yma.