Rydym ni, a'n partneriaid, yn gosod cwcis a chasglu gwybodaeth o'ch porwr i roi cynnwys gwefan i chi a deall cynulleidfaoedd gwe. Gweler ein polisi preifatrwydd i ddysgu mwy am sut rydym yn rheoli eich data a'ch hawliau. Gweler ein polisi cwcis i ddeall sut rydym yn defnyddio cwcis a thechnoleg olrhain.
Bydd y gronfa’n darparu cymorth ariannol ychwanegol yn ystod pandemig y coronafeirws ac yn cynorthwyo sefydliadau i reoli pwysau o ran llif arian. Bydd o gymorth i fynd i’r afael â bylchau nad ydynt yn cael eu llenwi gan y cynlluniau a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.Bydd y cam hwn yn targedu microfusnesau, busnesau bach a chanolig a busnesau mawr o bwysigrwydd economaidd neu gymdeithasol allweddol i Gymru, a bydd yn rhyddhau cyllid gwerth £200 miliwn.
Mae manylion llawn y meini prawf cymhwysedd ar gael yn: https://fundchecker.businesswales.gov.wales/cy
Bydd y broses ymgeisio i fusnesau sy’n gymwys i gael cymorth ariannol trwy’r Gronfa Cadernid Economaidd ar agor ddydd Gwener 17 Ebrill trwy wefan Busnes Cymru. (https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy)