Conversant Technology yn Springboard (Cwmbran) yn dod yn Bartner Arbenigol i gwmni TG mawr Softcat

Mae’r cwmni seilwaith a chwmni FTSE 250, Softcat, wedi ymuno gydag arbenigwyr cyfathrebu unedig, Conversant Technology, i ychwanegu gwasanaethau llais Microsoft Teams i’w portffolio.

 Conversant Technology, sydd wedi ei leoli yng Nghanolfan Arloesi  technoleg uchel Springboard, Cwmbrân, yw’r darparwr sy’n tyfu gyflymaf o ran gwasanaethau llais a chymwysiadau llais sy’n gweithio gyda Microsoft Teams.

 Manteisiodd Conversant ar becyn benthyciad ac ecwiti ar y cyd gan Fanc Datblygu Cymru ac is-gwmni Tata Steel, UK Steel Enterprise, yn 2018.

Meddai Patrick Copping, Cyfarwyddwr-reolwr gyda Conversant Technology: “Mae ein cynnig yn un grymus a chyflawn iawn, yn cynnig siop un stop ar gyfer cwsmeriaid i gyflymu eu strategaethau cyfathrebu unedig drwy MS Teams.”

 Darllenwch y datganiad llawn i’r wasg yma

 Dysgu mwy am Springboard

 

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 14th Rhagfyr 2020