Dydd Iau 23 Gorffennaf 2020: Ysgol Fusnes Sbonc Torfaen: Digwyddiad GYRRU BUSNES yn ffrydio'n fyw

TEE PopUp Business Banner PHOTOGRAPHER WELSH

Yn ystod y dyddiau diwethaf mae busnesau ledled Torfaen a darpar-fentrwyr sydd am ddechrau busnes yn y fwrdeistref wedi bod yn manteisio ar gyfle AM DDIM i glywed gan Simon Paine o PopUp Business School ar sut i yrru eu busnesau a syniadau creadigol mewn ffyrdd ymarferol, addasu, cryfhau a magu’r hyder i daclo’r ffordd sydd o’u blaen o fewn yr amgylchiadau newydd i fusnesau.

Mae’r digwyddiad ‘rhithiol’ ysbrydoledig, trawiadol ac ysgogol yma dros 3 diwrnod, a ddechreuodd ddydd Mawrth ac sy’n cynnwys llwyth o bynciau yn dod i ben ddydd Iau 23 Gorffennaf ac mae’n canolbwyntio ar :

  • Sut i Wneud y Mwyaf o’ch Presenoldeb Ar-lein
  • Defnyddio’ch Marchnata i Hybu Gwerthiant

YMUNWCH Â NI RHWNG 9.30am a 3pm!

Bydd aelodau o dîm Economi a Mentergarwch Torfaen wrth law hefyd

Cliciwch ar y ddolen isod

https://events.popupbusinessschool.co.uk/TorfaenJuly2020

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 22nd Gorffennaf 2020