
Ar gyfartaledd mae tua 20,000 o geir yn gyrru heibio cylchfannau prysuraf gogledd a de Torfaen bob dydd.
Mae dros 93,000 o bobl yn byw yn Nhorfaen; mae'n lle bywiog, amrywiol gyda chysylltiadau ffordd a rheilffordd ragorol.
Pum milltir yn unig ydyw o'r M4 sy'n ei gwneud yn ardal boblogaidd iawn ymhlith ymwelwyr, p'un a ydyn nhw'n dewis cerdded yn ein cefn gwlad syfrdanol neu siopa yng Nghanolfan Siopa Cwmbrân, un o'r canolfannau siopa dan do mwyaf yng Nghymru, gyda mwy na 170 o siopau a mwy na 3,000 o leoedd parcio.
Mae hysbysebu ar un o gylchfannau Torfaen yn rhoi cyfle i bobl weld neges eich busnes 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae Cyngor yn chwilio am fusnesau a fyddai â diddordeb mewn hysbysebu eu gwasanaethau ledled y fwrdeistref, o gylchfannau'r A4043 ym Mhont-y-pŵl, y rhai ar hyd Cwmbran Drive, i'r rhai ger Canolfan Siopa Cwmbrân a llawer mwy.
Rhagor o wybodaeth, gan gynnwys argaeledd a phrisiau, ar gael yn:
https://www.torfaen.gov.uk/cy/Business/DoingBusinessWithTheCouncil/RoundaboutSponsorship/Roundabout-Sponsorship-Scheme.aspx
Cysylltwch â:
Telephone: 01495 766810
Ebost: kate.austin@torfaen.gov.uk
Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 31st Gorffennaf 2020