Yr Wythnos Tec Cymru cyntaf yn digwydd 13eg – 17eg Gorffennaf: Cymerwch ran!

Mae Wythnos Tec Cymru’n ŵyl rithiol ryngweithiol unigryw sy’n cynnwys gweminarau, gweithdai a digwyddiadau digidol i fusnesau technoleg a diwydiannau cynorthwyol yng Nghymru a thu hwnt gyda’r bwriad o arddangos lled, nerth ac amrywiaeth diwydiant technoleg Cymru.

 

Mae cymuned Technology Connected yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

 

  • Cynnal digwyddiad fel rhan o Wythnos Tec Cymru (unrhyw bwnc neu fformat e.e. gweminarau, cyfarfodydd digidol, gweithdai fideo, sesiynau mentora, hysbysebion neu hyd yn oed cwisiau.).  Gallwch ddefnyddio baner Wythnos Tec Cymru.

 

 

  • Cysylltu’ch brand gydag effaith Wythnos Tec Cymru.  Mae nifer gyfyngedig o bartneriaethau ar gael.

 

Ewch i Wythnos Tec Cymru am ragor o wybodaeth 

Tanysgrifiwch i dderbyn bwletinau gwybodaeth rheolaidd, a'r diweddaraf gan Economi a Mentergarwch Torfaen i'ch e-bost

 

 

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 17th Mehefin 2020