Siambr De Cymru'n Cysylltu Busnesau yn ystod Pandemig trwy hwb newydd

Mae Siambr Fasnach De Cymru wedi creu llwyfan i fusnesau gysylltu a chefnogi ei gilydd yn ystod cyfnod y coronafeirws.

Mae’r Hwb Adnodd Cyflenwad a Galw Hwb Adnodd Cyflenwad a Galw yn galluogi busnesau i rannu eu hadnoddau, gwasanaethau a chyflenwadau gyda chwmnïau eraill.  Mae’r Siambr wedi creu’r Hwb, nid yn unig i’w haelodau, ond i holl fusnesau Cymru yn rhad ac am ddim.

Mae’r Hwb wedi ei rannu’n ddau gategori: cynnig gwasanaethau a chyflenwadau a gofyn am wasanaethau a chyflenwadau

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 30th Mawrth 2020