Y cyfnod atal byr yng Nghymru yn dod i ben

Bydd set newydd o fesurau cenedlaethol yn dod i rym heddiw, gan ddisodli rheolau’r cyfnod atal byr.

Mae’r mesurau cenedlaethol newydd yn cynnwys y canlynol:

  • Ni fydd pobl ond yn gallu cwrdd â phobl sy’n rhan o’u ‘swigen’ yn eu cartref eu hunain; dim ond dwy aelwyd fydd yn gallu ffurfio ‘swigen’. Os bydd un person o’r naill aelwyd neu’r llall yn datblygu symptomau, dylai pawb hunanynysu ar unwaith.
  • Bydd modd i bobl gyfarfod mewn grwpiau o hyd at bedwar o bobl (heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) mewn lleoedd o dan do sy’n cael eu rheoleiddio, megis lletygarwch – bariau, tafarndai, caffis a bwytai. Ni chaiff y lleoliadau hyn weini alcohol rhwng 10pm a 6am, a phan fo gan leoliad drwydded i werthu alcohol bydd rhaid i’r lleoliad gau am 10.20pm.
  • Fel rhan o’r ymdrech i leihau ein risgiau, dylai pobl osgoi teithio nad yw’n hanfodol gymaint â phosibl. Ni fydd cyfyngiadau cyfreithiol ar deithio o fewn Cymru ar gyfer preswylwyr, ond rhaid i bobl fod ag esgus rhesymol i deithio i mewn i Gymru neu i adael Cymru.
  • Caiff hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgaredd o dan do wedi’i drefnu (megis dosbarth ymarfer corf - – lle mae corff cyfrifol yn rheoli'r digwyddiad) a hyd at 30 mewn gweithgaredd awyr agored wedi’i drefnu, cyn belled â bod yr holl fesurau cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo a mesurau diogelu eraill o ran COVID-19 yn cael eu dilyn.

Yn ogystal:

  • Caiff cyfleusterau gofal plant, ysgolion, colegau addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a darparwyr addysg oedolion ddychwelyd at y model gweithredu a oedd ar waith ganddynt cyn y cyfnod atal byr. Caiff prifysgolion barhau i ddarparu cyfuniad o addysgu wyneb yn wyneb a dysgu cyfunol.
  • Caiff addoldai ailddechrau eu gwasanaethau.
  • Caiff busnesau manwerthu ailagor, gan gynnwys gwasanaethau cysylltiad agos megis salonau trin gwallt, siopau barbwr a salonau harddwch.
  • Caiff cyfleusterau chwaraeon a hamdden, gan gynnwys campfeydd a phyllau nofio, ailagor, ond rhaid i’r gweithredwyr gymryd pob mesur rhesymol i reoli risg a chadw pellter cymdeithasol.
  • Caiff lleoliadau adloniant ailagor, gan gynnwys sinemâu, alïau bowlio, rinciau sglefrio, amgueddfeydd, orielau, neuaddau bingo, casinos ac arcedau difyrrwch, ond mae’n dal yn ofynnol i theatrau a neuaddau cyngerdd, clybiau nos a lleoliadau adloniant rhywiol fod ar gau.
  • Caiff gwasanaethau awdurdodau lleol ailddechrau, ond yn unol ag amgylchiadau lleol.
  • Caiff pobl sy’n bwriadu symud tŷ fynd i weld tai a chaiff pobl symud tŷ.
  • Caniateir ymweliadau â chartrefi gofal, gan ddibynnu ar amgylchiadau lleol.

Bydd yn dal yn ofynnol i bob safle sy’n ailagor gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risgiau o ledaenu’r feirws. Mae hyn yn cynnwys mesurau i sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol o 2m, yn ogystal â mesurau eraill, megis cyfyngu ar niferoedd, gweithredu systemau unffordd neu gyfyngu ar faint o amser y caiff pobl ei dreulio ar y safle.

Mae pawb hefyd yn cael ei annog i wneud yr hanfodion bob amser – cadw pellter cymdeithasol; golchi dwylo’n aml a gwisgo masg wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do. Yn ogystal, gofynnir i bobl weithio gartref pan fo’n bosibl.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru (DATGANIAD I’R WASG)

https://llyw.cymru/y-cyfnod-atal-byr-yng-nghymru-yn-dod-i-ben

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 9th Tachwedd 2020