Rydym ni, a'n partneriaid, yn gosod cwcis a chasglu gwybodaeth o'ch porwr i roi cynnwys gwefan i chi a deall cynulleidfaoedd gwe. Gweler ein polisi preifatrwydd i ddysgu mwy am sut rydym yn rheoli eich data a'ch hawliau. Gweler ein polisi cwcis i ddeall sut rydym yn defnyddio cwcis a thechnoleg olrhain.
Nawr, gall busnesau ledled Cymru ddarganfod a allant wneud cais am arian o drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd.
Bydd y gwiriwr cymhwysedd yn galluogi busnesau i weld a allant gael mynediad i gyfran o £80 miliwn y gronfa a fydd yn cefnogi cwmnïau gyda phrosiectau a all eu helpu i drosglwyddo i economi'r dyfodol.
O'r swm hwn, bydd £20 miliwn wedi'i glustnodi i gefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch sy'n wynebu heriau penodol a ninnau ar drothwy'r gaeaf.
Bydd gwerth £80 miliwn o grantiau datblygu busnes yn agored i ficro fusnesau, busnesau bach a chanolig a busnesau mawr.
Mae'r Gwiriwr Cymhwysedd ar gyfer y rhan hon o'r gronfa i'w weld yn
https://fundchecker.businesswales.gov.wales/erfphase3/cy
Gallwch wneud cais i’r gronfa grantiau o 26 Hydref 2020 am pedwar wythnos.
Ffynhonnell: Busnes Cymru
https://businesswales.gov.wales/cy/newyddion-blogiau/newyddion/cam-3-y-gronfa-cadernid-economaidd