Mae’r grant yn cael ei ymestyn o 1 Tachwedd 2020
I fod yn gymwys ar gyfer yr Estyniad yn y Grant, rhaid i unigolion hunangyflogedig, gan gynnwys aelodau partneriaethau:
fod wedi bod yn gymwys o’r blaen am grant cyntaf ac ail grant y Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig (er nad oes rhaid eu bod wedi hawlio’r grantiau blaenorol)
datgan eu bod yn bwriadu parhau i fasnachu a naill ai:
eu bod yn masnachu ar hyn o bryd ond yn cael eu heffeithio gan lai o alw oherwydd coronafeirws
eu bod wedi bod yn masnachu o’r blaen ond dydyn nhw ddim yn gallu gwneud hynny am y tro oherwydd coronafeirws
Beth sy’n cael ei gynnwys yn estyniad y Grant
Bydd yr estyniad yn para chwe mis, o Dachwedd 2020 tan Ebrill 2021. Bydd grantiau’n cael eu talu mewn dau daliad, pob un ar gyfer cyfnod o dri mis.
Bydd y grant cyntaf ar gyfer cyfnod o dri mis o 1 Tachwedd 2020 tan 31 Ionawr 2021. Bydd y Llywodraeth yn rhoi grant trethadwy ar gyfer 40% o elw masnachu misol ar gyfartaledd, wedi ei dalu mewn un taliad ar gyfer gwerth 3 mis o elw, a gyda mwyafswm o £3,750 yn cael ei dalu.
Bydd yr ail grant ar gyfer cyfnod o dri mis o 1 Chwefror 2021 tan 30 Ebrill 2021. Bydd y Llywodraeth yn adolygu lefel yr ail grant ac yn pennu hyn yn y man.
Mae’r grantiau’n incwm trethadwy ac yn destun cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Mae Estyniad y Grant Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig yn agor i geisiadau o 14 Rhagfyr 2020. Mwy o wybodaeth i ddilyn maes o law
Ewch i:
https://www.gov.uk/government/publications/self-employment-income-support-scheme-grant-extension/self-employment-income-support-scheme-grant-extension
Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 30th Hydref 2020