Rydym ni, a'n partneriaid, yn gosod cwcis a chasglu gwybodaeth o'ch porwr i roi cynnwys gwefan i chi a deall cynulleidfaoedd gwe. Gweler ein polisi preifatrwydd i ddysgu mwy am sut rydym yn rheoli eich data a'ch hawliau. Gweler ein polisi cwcis i ddeall sut rydym yn defnyddio cwcis a thechnoleg olrhain.
Mae Cynllun Grant Llawrydd Cronfa Ddiwylliannol Cymru Llywodraeth Cymru am geisio rhoi grant o £2,500 yr un i ymgeiswyr cymwys. Mae pob ardal llywodraeth leol wedi cael cyfran o’r gyllideb - mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi cael £222,500 i gefnogi 89 o geisiadau.
Mae cefnogaeth yn cael ei chynnig i gynorthwyo gweithwyr llawrydd proffesiynol y mae gan eu gwaith ganlyniadau creadigol/diwylliannol uniongyrchol ac sy’n gweithio yn y pedwar is-sector allweddol:
Bydd ymgeiswyr hefyd yn gymwys i wneud cais os ydyn nhw’n gweithio rhan amser ac mae ganddyn nhw hefyd waith creadigol proffesiynol llawrydd.
Mae gweithwyr llawrydd sydd wedi cael cefnogaeth o’r blaen naill ai gan Gynllun Cadw Swyddi’r Llywodraeth a’r Cynllun Cefnogaeth Incwm Hunangyflogaeth ac sydd â thrafferthion ariannol yn dal i fod yn gymwys i wneud cais am y gronfa.
Bydd manylion pellach ar gael yn y man yn https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy a https://www.southwalesbusiness.co.uk/cy/Hafan.aspx
Bydd Cynllun Grant Llawrydd Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru yn agor ddydd Llun 5 Hydref.