Cyhoeddwyd canllawiau ynghylch pa fusnesau ac adeiladau y mae'n ofynnol iddynt gau ar Rhybudd Lefel 4 yng Nghymru (fel y cyhoeddwyd gan Brif Weinidog Cymru ar 19 Rhagfyr 2020).
Mae'r canllawiau hyn, a'r cyfyngiadau yn y rheoliadau sy’n ymwneud â chyfnod atal byr y coronafeirws, wedi'u cyfeirio'n bennaf at fangroedd sydd ar agor i'r cyhoedd. Gall y mangreoedd hynny fod o dan do neu yn yr awyr agored. Prif ddiben cau mangreoedd yw lleihau nifer y cynulliadau o bobl a lleihau nifer y siwrneiau y mae pobl yn eu gwneud, yn unol â'r rheol gyffredinol y dylai pobl aros gartref gymaint â phosibl.
Mae'r ddolen hon yn darparu gwybodaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru am:
Siopau: y rheol gyffredinol
Siopau sy'n gwerthu sawl math o gynnyrch
Siopau sy’n gwerthu sawl math o gynnyrch: argyfyngau
Gwasanaethau clicio a chasglu
Gwasanaethau dosbarthu nwyddau
Dychwelyd nwyddau
Atgyweiriadau telathrebu
Gwaith a wneir yng nghartrefi pobl
Bwytai, caffis, bariau a thafarndai
Cynnal a chadw mangreoedd
Darperir gwybodaeth benodol hefyd am gau ac eithriadau o ran y sectorau canlynol:
Bwyd a diod
Manwerthu
Llety
Sefydliadau amhreswyl
Ymgynnull a hamdden
Hamdden
Wedi ei bostio ar Dydd Llun 4th Ionawr 2021