Hygyrchedd
Ystyr ‘hygyrchedd gwefannau’ yw sicrhau bod gwefannau yn hawdd i bob defnyddiwr eu defnyddio, waeth beth yw eu gallu, iaith, addysg neu dechnoleg.
Cynlluniwyd y safle hwn i fod yn hygyrch i amrywiaeth eang o ddefnyddwyr. Isod, ceir rhai o’r nodweddion a ddefnyddiwr ar draws y safle.
Fersiwn Cyferbynnedd Uchel a Dim Ond Testun
Os ydych yn ei chael yn anodd darllen cynnwys y wefan hon, gallwch newid y cyferbynnedd fel bod geiriau lliw golau yn ymddangos ar gefndir tywyll. Er mwyn gwneud hyn, dewiswch y ddolen Dim Ond Testun / Text Only sydd ar frig pob tudalen, neu newidiwch osodiadau eich porwr.
Maint y Testun
Efallai y bydd yn haws i rai defnyddwyr ddarllen y testun ar y sgrîn trwy ei gael i ymddangos yn fwy o faint. Mae’r opsiwn i newid maint y testun ar y wefan ar frig pob tudalen. Oddi yma, gallwch gynyddu neu ostwng maint y testun.
Ffordd arall o wneud hyn yw dal Ctrl ar y bysellfwrdd a defnyddio olwyn sgrolio’r lygoden neu fysellau – neu + er mwyn cynyddu neu ostwng y maint.
Bysellau Hygyrchedd
Os yw’n anodd i chi ddefnyddio llygoden neu ddyfais debyg, rydym wedi gweithredu system bysellau hygyrchedd safonol i’ch helpu i symud o amgylch y wefan.
Dyma’r bysellau hygyrchedd a ddefnyddir ar y wefan hon:
- S – Symud i Ffwrdd o’r Gwe-lywio / Mynd at y prif destun
- 1 - Hafan
- 2 - Newyddion
- 3 – Map o’r Safle
- 4 - Chwilio
- 6 – Digwyddiadau sydd ar Droed
- 8 - Polisi Cwcis
- 9 – Cysylltwch â Ni
- 0 – Manylion Bysellau Hygyrchedd
Mae gwe-borwyr gwahanol yn defnyddio bysellau hygyrchedd mewn ffyrdd gwahanol felly sicrhewch eich bod yn gwybod pa we-borwr sydd gennych a pha fysellau sydd angen i chi eu gwasgu.
Bysellau Hygyrchedd Porwr
Yn y tabl isod, ceir rhai o’r porwyr cyffredin a’u bysellau byr.
Bysellau
Hygyrchedd Porwyr
Gwe-borwr | Addasydd |
Chrome |
Alt ar Windows a Linux
Ctrl + Opt ar Mac |
Firefox |
Alt + ⇧ Shift ar Windows a Linux
Ctrl ar Mac (hyd at v14.0)
Ctrl + Opt ar Mac (v14.0.1 neu uwch) |
Internet Explorer |
Alt |
Opera |
⇧ Shift + Esc cyn y bysell hygyrchedd |
Safari 3 |
Ctrl ar gyfer Mac
Alt ar Windows |
Safari 4 and higher |
Ctrl + Opt ar Mac
Alt ar Windows |