Torfaen - yr ateb delfrydol ar gyfer eich angen i symud eich busnes

Os ydych yn ystyried adleoli eich busnes i dde Cymru o rannau eraill o Gymru neu’r DU, neu hyd yn oed o  ardaloedd ymhellach i ffwrdd, yna mae Torfaen yn ddewis delfrydol.

  • Mae Torfaen yn un o’r lleoliadau busnes mwyaf hwylus yn y DU gyda chysylltiadau teithio rhagorol.
  • Mae Torfaen yn cynnig amrywiaeth gwych o eiddo masnachol o swyddfeydd o ansawdd uchel ac unedau diwydiannol bach i gyfleusterau warws mwy a chyfleoedd datblygu. Mae hefyd yn gartref i Ganolfan Arloesi Busnes Springboard~Cymru sy’n cynnig lle a chymorth dosbarth cyntaf ar gyfer busnesau arloesi, technoleg a thechnoleg ariannol twf uchel.
  • Mae gan Dorfaen ddalgylch rhagorol yn cynnig amrywiaeth o sgiliau gweithlu ac adnoddau, gan gynnwys mynediad hawdd at nifer o brifysgolion ag enw da o ran recriwtio graddedigion

Mae’r tîm yn Economi a Mentergarwch Torfaen yma i gynghori a’ch helpu i symud i Dorfaen. Rydym yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr ac am ddim, wedi ei deilwra i ddiwallu eich anghenion, gan gynnwys cymorth gyda:  

  • Adnabod bylchau cyllido a ffynonellau o gymorth ariannol, gan gynnwys cynlluniau Llywodraeth Cymru a sefydliadau yng Nghymru, ynghyd â buddsoddwyr 
  • Adnabod a helpu i gyflawni unrhyw sgiliau gweithlu sydd eu hangen ac anghenion recriwtio staff
  • Helpu i adnabod eiddo busnes addas yn Nhorfaen
  • Gofynion marchnata a chysylltiadau cyhoeddus mewn cysylltiad â’ch symudiad i Dorfaen

I gael rhagor o wybodaeth ar sut i adleoli eich busnes yn llwyddiannus i Dorfaen, cysylltwch â:

Gaynor Wakeling, Rheolwr Prosiect Ecosystemau Arloesi                                       

Ffôn: 01633 648371/Symudol: 07980682307
Ebost: gaynor.wakeling@torfaen.gov.uk

 

Delegates at meeting
Man reading