Llais Busnes Torfaen (Clwb Busnes)

Torfaen Business Voice Logo

Gwnewch 2023 y flwyddyn y byddwch chi’n dod yn rhan o’ch rhwydwaith busnes lleol ac yn cwrdd â busnesau tebyg yn ardal Torfaen.

Llais Busnes Torfaen yw clwb busnes ffyniannus Torfaen sy’n bod ers dros 21 mlynedd. Gyda thua deg a thrigain o aelodau o sectorau a meintiau amrywiol, o fusnesau cychwynnol newydd sbon i fusnesau bach a chanolig sydd wedi eu hen sefydlu, gyda phrofiad helaeth sy’n cael ei rannu yn y digwyddiadau rhwydweithio poblogaidd.

Mae’r clwb yn cael ei redeg gan bwyllgor o fusnesau, sy’n rhan annatod o’i lwyddiant. Mae’r aelodau yma o’r pwyllgor yn awyddus i wneud gwahaniaeth a llywio’r clwb i’r cyfeiriad y mae’r aelodau’n penderfynu. 

Rydym yn cynnig dwy lefel o aelodaeth: 

  • Adnewyddiad Aelodaeth Lawn
  • Cyfradd gychwynnol i Aelodau Newydd neu fusnesau cychwynnol am £48.00 gan gynnwys TAW*
    • i fusnesau gydag 1-10 o gyflogeion am £60.00 gan gynnwys TAW 
    • i fusnesau gyda dros 10 o gyflogeion am £80 gan gynnwys TAW

*Mae’r aelodaeth Newydd/Cychwynnol i gwmnïau sydd yn eu blwyddyn gyntaf o fasnachu ac i aelodau newydd, sydd ddim wedi bod yn aelod o’r Clwb Busnes o’r blaen. Mae’r aelodaeth yma am un flwyddyn galendr o Ionawr tan Ragfyr. 

Buddion Aelodaeth

Mae Llais Busnes Torfaen yn cynnig gwerth ardderchog am arian nifer o fanteision i chi a’ch busnes gan gynnwys:

  • Lle yn ein cyfarfodydd, sy’n digwydd bob chwarter.  Mae’r cyfarfodydd yn cynnwys sesiynau rhwydweithio, cyngor cymorth busnes a siaradwyr gwadd ysbrydoledig
  • Cyfleoedd amrywiol i rwydweithio gyda digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn
  • Bwletinau trwy e-bost gyda gwybodaeth am ariannu sydd ar gael, rhaglenni hyfforddiant, digwyddiadau rhwydweithio yn ogystal â chyfleoedd eraill a allai fod o fudd i fusnesau yn Nhorfaen
  • Gwybodaeth am ddigwyddiadau busnes, gan gynnwys brecwastau busnes, gweithdai a seminarau a gynhelir gan sefydliadau partner
  • Rhestru manylion eich cwmni yn adran aelodaeth llais busnes (proffiliau aelodau) i’w rhannu ag aelodau eraill

Ymunwch nawr trwy gwblhau Ffurflen gais Llais Busnes Torfaen.  Gellir talu trwy’r ddolen yma  Byddwn yn cadarnhau eich aelodaeth unwaith y bydd y ffurflen wedi ei chwblhau’n gyflawn a’r taliad ill dau wedi eu derbyn.

Edrychwn ymlaen ar eich croesawu i Lais Busnes Torfaen.  Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cyn ymaelodi, cysylltwch â ni trwy businessdirect@torfaen.gov.uk, neu ffoniwch  01633 648735