Hysbysiad Preifatrwydd

Economi a Mentergarwch Torfaen : Gwasanaethau Gwefan a Chymorth Busnes

Rheolwr data - Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Swyddfeydd Dinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Swyddog Rheoli Gwybodaeth a Diogelu Data - Ffon: 01633 647467 - E-bost: dpa@torfaen.gov.uk

Mae'r Hysbysiad hwn yn nodi sut y bydd data personol y mae Adran Economi a Mentergarwch Torfaen yn ei gasglu oddi wrthych neu sut y bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni yn cael ei phrosesu, ei defnyddio a'i datgelu gennym.

Cyfeirir at y gwasanaethau a ddarperir gan Economi a Mentergarwch Torfaen sy'n rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen fel ‘gwasanaethau’ yn yr Hysbysiad hwn ac maent yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

  • Cymorth busnes, arweiniad, cyngor a chyfeirio (gan gynnwys cychwyn busnes)
  • Clwb Busnes
  • Cymorth o ran buddsoddi fewnol
  • Cynnyrch ariannol
  • Cyfeiriadur Eiddo Masnachol
  • Digwyddiadau busnes

Rydym yn casglu a phrosesu data personol sy’n gysylltiedig â:

  • Chyflogeion, cysylltiadau a’r rheini sy’n berchen ar/neu mewn  busnesau a sefydliadau ledled y sector preifat, cyhoeddus, y trydydd sector a’r sectorau gwirfoddol
  • Unigolion sy’n ystyried sefydlu busnes

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ynghylch sut y mae'n casglu ac yn defnyddio data personol ac o ran bodloni'r rheoliadau diogelu data.

Caiff yr holl wybodaeth ei thrin yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

Mae rhagor o wybodaeth ar sut mae’r Cyngor yn delio â’ch data i’w gweld yn http://www.torfaen.gov.uk/cy/AboutTheCouncil/DataProtectionFreedomofInformation/Data-Protection-and-Freedom-of-Information.aspx

Pa ddata personol ydym yn ei gasglu

Gall gwybodaeth bersonol fod yn unrhyw beth sy'n enwi ac sy'n gysylltiedig ag unrhyw berson byw. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a all, pan gaiff ei roi ynghyd â gwybodaeth arall, arwain at adnabod person.

P’un a ydych yn darparu gwasanaethau a / neu’n cael mynediad atynt, mae Economi a Mentergarwch Torfaen yn casglu a phrosesu data personol cyfyngedig. Bydd y math o wybodaeth yn amrywio gan ddibynnu ar ba gefnogaeth busnes yr ydym yn ei rhoi i chi a’ch busnes.Mae'r data personol y gallwn ei gasglu yn cynnwys: 

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhifau ffôn
  • Cyfeiriadau e-bost

 Efallai byddwn yn casglu data sydd wedi ei gategoreiddio fel gwybodaeth arbennig fel:

  • Statws Anabledd
  • Ethnigrwydd
  • Ariannol

Data busnes

Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth am eich busnes neu'ch darpar fusnes newydd er mwyn i ni gynllunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau gwell, yn ogystal â dadansoddi a phroffilio'r busnesau yr ydym yn eu cefnogi. Bydd unrhyw ddata busnes sy'n sensitif yn fasnachol a ddarperir inni wrth i ni gyflenwi'n gwasanaethau yn cael ei drin yn gyfrinachol. 

Pan fyddwn yn casglu data personol

Rydym yn casglu data personol amdanoch pan fyddwch yn:

  • Cysylltu â ni ynghylch ein gwasanaethau ee dros y ffôn, ar y wefan, yn ysgrifenedig, ar gyfryngau cymdeithasol, yn bersonol adeg digwyddiadau ac arddangosfeydd, mewn cyfarfodydd 1 - 1.
  • Cofrestru ar/ar gyfer a/neu brynu,  a /neu gytuno i dderbyn neu ddefnyddio’n gwasanaethau 
  • Caniatáu i ni gyfathrebu â chi ynghylch deunydd marchnata a gwybodaeth
  • Cymryd rhan yn wirfoddol mewn ymchwil ac arolygon

Sut yr ydym yn casglu data personol

Rydym yn casglu data personol trwy ddulliau ar lein ac all-lein

Pam yr ydym yn prosesu data personol

Mae Economi a Mentergarwch Torfaen wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth proffesiynol ar eich cyfer a datblygu gwelliannau i'n gwasanaethau yn y dyfodol. Mae'r data personol rydych chi'n ei roi i ni yn ein galluogi i gyflawni ein rhwymedigaethau i chi a'ch busnes / sefydliad neu unrhyw ddarpar fusnes newydd, a hynny mewn modd effeithiol.

Rydym hefyd yn prosesu eich data personol pan fyddwch yn rhoi caniatâd penodol, gwirfoddol i dderbyn unrhyw ohebiaeth sy'n gysylltiedig â busnes gennym. Pan fyddwch yn cyfathrebu gyda ni, byddwn bob amser yn rhoi cyfle i chi eithrio. Gallwch hefyd anfon e-bost atom ar unrhyw adeg ar info@southwalesbusiness.co.uk neu ffoniwch ni ar 01633 648644 i roi'r gorau i dderbyn unrhyw ohebiaeth. Sylwch efallai na fydd newidiadau yn effeithiol ar unwaith. Byddwn yn ymdrechu i gydymffurfio â'ch cais cyn gynted ag y bo'n rhesymol  i ni wneud hynny.

Diogelu eich gwybodaeth

Mae'r cyngor yn cymryd diogelu eich data o ddifri, ac rydym yn cydymffurfio â pholisïau mewnol i sicrhau na chaiff eich data personol ei golli yn ddamweiniol, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na'i ddatgelu. 

Datgelu

Mae’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei datgelu yn cael ei phrosesu yn y Deyrnas Unedig.

Nid ydym yn gwerthu eich gwybodaeth i sefydliadau eraill.

Nid fyddwn yn rhannu eich data gyda darparwyr gwasanaethau Gyda darparwyr gwasanaeth a chyflenwyr a gomisiynwyd gan y Cyngor yn unig y byddwn yn rhannu eich data, a hynny er mwyn darparu gwasanaeth ar ein rhan.

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag adrannau eraill y cyngor sy'n gweithio gydag Economi a Mentergarwch Torfaen i gynnig a darparu gwasanaethau cymorth perthnasol sy'n ymwneud â busnes. O ran taliadau, bydd rhaid gwneud hynny, os yn berthnasol, trwy'r gwasanaeth Gwneud Taliad ar wefan cyngor Torfaen. 

Er mwyn gwella ein gwasanaethau, efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth ddienw, ymchwil a dadansoddiadau gyda sefydliadau eraill sy'n berthnasol.

 Ni fyddwn yn datgelu eich data personol i drydydd parti oni bai bod gofyn i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith yn y DU.

Am ba gyfnod mae’r Cyngor yn cadw data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am y cyfnod sydd ei angen a hynny’n unig, a bydd yn dilyn safonau’r sefydliad a’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn.

Cwcis a Google

Mae gwybodaeth am y rhain ar y wefan i'w gweld yma ar wefan Economi a Mentergarwch Torfaen

Cwcis 

Google Analytics 

Cysylltiadau ac adnoddau ar wefan Economi a Mentergarwch Torfaen

Rydym yn darparu dolenni i nifer o wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn er gwybodaeth yn unig. Rydym hefyd yn cysylltu â gwefannau cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys YouTube, Facebook a Twitter.

Nid yw’r safleoedd hyn a’u cynnwys o fewn ein rheolaeth ac nid yw’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn eu cwmpasu.

Eich Hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau penodol i unigolion mewn perthynas â data personol a gedwir amdanynt. Rydym yn cydymffurfio â pholisïau CBST yn hyn o beth. Os hoffech chi ymarfer yr hawliau hyn, cysylltwch â:

Kevin Davies, Rheolwr Systemau TGCh Diogelu'r Cyhoedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen:   
Ffon: 01633 647280
E-bost: kevin.Davies@Torfaen.Gov.uk

Ymhle gallaf gael cyngor?

I gael cyngor annibynnol am faterion diogelu data, preifatrwydd a rhannu data, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
2ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif ffôn: 029 2067 8400
Ffacs: 029 2067 8399
E-bost: wales@ico.org.uk

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg ar 029 2067 8400.

Newidiadau i’r Hysbysiad Preifatrwydd

Cedwir yr hawl gan Gyngor Torfaen i ddiweddaru'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn a gwneud newidiadau iddo.

Diweddarwyd Mai 2020