Cefnogaeth a Phartneriaid

Yma, yng Nghanolfan Arloesi Busnes Springboard ~ Cymru, cewch fynediad at amrediad o gymorth busnes trwy un man cyswllt. Siaradwch â Rheolwr y Ganolfan, a fydd yn gallu esbonio pa gymorth sydd ar gael trwy Lywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol, a dangos y ffordd atynt, gan gynnwys:

  • gwerthuso sgiliau unigol, cymorth cyn-dechrau, un-i-un a rhaglen datblygu personol
  • cymorth ymarferol a chyngor i helpu’ch busnes i ddatblygu
  • gweithdai wedi eu targedu i hybu sgiliau penodol yn ôl yr angen
  • adolygiadau busnes un-i-un a chymorth gyda datblygiad strategol

Busnes

Mae Llywodraeth Cymru’n trosglwyddo ei hamrediad o gymorth busnes trwy wasanaeth sy’n llwyr integredig – Busnes Cymru.

Mae Springboard yn gweithio’n agos gyda swyddogion allweddol o fewn Llywodraeth Cymru i gael mynediad at gymorth arbenigol a chyllid. 

Arloesi 

Mae’r tîm yn Springboard yn gweithio i gefnogi busnesau ar eu taith arloesi trwy ddarparu cyngor arbenigol a chymorth i hwyluso perthnasoedd â'n partneriaid yn y rhwydwaith arloesi i greu'r amgylchedd busnes perffaith. Fel rhan o Springboard byddwch yn derbyn cefnogaeth reolaidd ar sail un i un, fodd bynnag, os ydych yn fusnes yn Nhorfaen sy'n galw am ein harbenigedd yn y maes arloesi, cysylltwch â ni a byddwn yn barod i’ch cefnogi.

Academaidd

Datblygodd llawer o’r cwmnïau yn Springboard gysylltiadau gweithgar gyda Phrifysgol De Cymru.

Mae’r Brifysgol yn darparu amgylchedd ble gall syniadau egino, datblygu a ffynnu fel rhan o’r economi gwybodaeth. Mae’r bartneriaeth rhwng y Brifysgol a Springboard yn sicrhau ein bod ni’n cysylltu addysg ynghylch mentergarwch gyda phrofiad ymarferol gan y rheiny yn y gweithle, ac mae hyn o fudd i’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid.

Elfen sy'n bwysig i ddyfodol gallu economi Prydain i gystadlu yw cynyddu gallu entrepreneuraidd myfyrwyr. Mae Prifysgol De Cymru yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu myfyrwyr a’u harfogi gyda’r sgiliau mentergarwch fel eu bod yn gallu dechrau eu busnesau eu hunain ar ôl graddio neu ddod â gwerth ac egni i’r mudiad sy'n eu cyflogi.