Hygyrchedd

Ystyr ‘hygyrchedd gwefannau’ yw sicrhau bod gwefannau yn hawdd i bob defnyddiwr eu defnyddio, waeth beth yw eu gallu, iaith, addysg neu dechnoleg.

Cynlluniwyd y safle hwn i fod yn hygyrch i amrywiaeth eang o ddefnyddwyr. Isod, ceir rhai o’r nodweddion a ddefnyddiwr ar draws y safle.

Fersiwn Cyferbynnedd Uchel a Dim Ond Testun

Os ydych yn ei chael yn anodd darllen cynnwys y wefan hon, gallwch newid y cyferbynnedd fel bod geiriau lliw golau yn ymddangos ar gefndir tywyll. Er mwyn gwneud hyn, dewiswch y ddolen Dim Ond Testun / Text Only sydd ar frig pob tudalen, neu newidiwch osodiadau eich porwr.

Maint y Testun

Efallai y bydd yn haws i rai defnyddwyr ddarllen y testun ar y sgrîn trwy ei gael i ymddangos yn fwy o faint. Mae’r opsiwn i newid maint y testun ar y wefan ar frig pob tudalen. Oddi yma, gallwch gynyddu neu ostwng maint y testun.

Ffordd arall o wneud hyn yw dal Ctrl ar y bysellfwrdd a defnyddio olwyn sgrolio’r lygoden neu fysellau – neu + er mwyn cynyddu neu ostwng y maint.

Bysellau Hygyrchedd

Os yw’n anodd i chi ddefnyddio llygoden neu ddyfais debyg, rydym wedi gweithredu system bysellau hygyrchedd safonol i’ch helpu i symud o amgylch y wefan.

Dyma’r bysellau hygyrchedd a ddefnyddir ar y wefan hon:

  • S – Symud i Ffwrdd o’r Gwe-lywio / Mynd at y prif destun
  • 1 - Hafan
  • 2 - Newyddion
  • 3 – Map o’r Safle
  • 4 - Chwilio
  • 6 – Digwyddiadau sydd ar Droed
  • 8 - Polisi Cwcis
  • 9 – Cysylltwch â Ni
  • 0 – Manylion Bysellau Hygyrchedd

Mae gwe-borwyr gwahanol yn defnyddio bysellau hygyrchedd mewn ffyrdd gwahanol felly sicrhewch eich bod yn gwybod pa we-borwr sydd gennych a pha fysellau sydd angen i chi eu gwasgu.

Bysellau Hygyrchedd Porwr

Yn y tabl isod, ceir rhai o’r porwyr cyffredin a’u bysellau byr.

Bysellau
Hygyrchedd Porwyr
Gwe-borwrAddasydd
Chrome Alt ar Windows a Linux

Ctrl + Opt
ar Mac
Firefox Alt + ⇧ Shift ar Windows a Linux

Ctrl ar Mac (hyd at v14.0)

Ctrl + Opt
ar Mac (v14.0.1 neu uwch)
Internet Explorer Alt
Opera ⇧ Shift + Esc cyn y bysell hygyrchedd
Safari 3 Ctrl ar gyfer Mac

Alt ar Windows
Safari 4 and higher Ctrl + Opt ar Mac

Alt ar Windows