Financial Support for Business (COVID-19)
Bydd y dudalen yma’n cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ar y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau sy’n cael eu heffeithio gan y Coronafeirws.
Llywodraeth Cymru:
Grant Addasu Canol Trefi C19
Mae cymorth ychwanegol bellach ar gael i fusnesau cymwys i’w helpu i fynd ati i barhau i adfer Canol ein Trefi.
Wedi'i ariannu gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraethau Cymru, mae “Grant Addasu Canol Trefi C19” yn darparu cyllid o hyd at 80% o gyfanswm y costau gwella cymwys – sef grant o hyd at £ 10,000. Bydd angen i'r Ymgeisydd dalu o leiaf 20% o Gyfanswm Costau'r Prosiect.
Mae'r cyllid yn cefnogi gwelliannau cyfalaf allanol sy'n hwyluso pellter cymdeithasol, lle gall cwsmeriaid ac aelodau'r cyhoedd ymgynnull, cael bwyd a diod neu orffwys.
Bydd y grant yn helpu busnesau hen a newydd i fodloni heriau o ran cadw pellter cymdeithasol wrth wella Canol ein Trefi o ran amwynder ac i gerddwyr.
Mae amserlen gyfyngedig ar gyfer y Rhaglen Grant hon, a bydd angen cwblhau’r gwaith yn ffisegol ac yn ariannol erbyn diwedd Mawrth 2021.
Mwy o wybodaeth yma
Cam 3 y Cronfa Cadernid Economaidd
Y GRONFA I FUSNESAU DAN GYFYNGIADAU: Y DIWEDDARAF I FUSNESAU YN NHORFAEN
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio'r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau i gefnogi busnesau (yn bennaf yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a'r sector manwerthu nad ydynt yn hanfodol) gyda chymorth llif arian ac i'w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau ychwanegol a roddwyd ar waith i reoli lledaeniad Covid-19 gan ddechrau ddydd Gwener 4 Rhagfyr 2020
Mae’r gronfa yn cynnwys dau grant ar wahân.
Grant Cyfradd Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau
Grant A - Taliad grant o £3,000 o arian parod i fusnesau lletygarwch / sefydliadau lletygarwch dielw a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol gyda hereditament sy'n gymwys o ran Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.
Grant B - Taliad grant o £5,000 o arian parod i fusnesau lletygarwch / sefydliadau lletygarwch dielw a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol gyda hereditament sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000.
Grant C - Taliad grant o £5,000 o arian parod i fusnesau lletygarwch / sefydliadau lletygarwch dielw a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol gyda hereditament sydd â gwerth ardrethol o rhwng £51,001 a £150,000.
Bydd busnesau lletygarwch a manwerthu nad ydynt yn hanfodol a dderbyniodd yr elfen 'Cau Gorfodol' o'r Grant Cyfnod Clo Chwim diweddar ac sy'n dod o fewn categorïau Grant A a Grant B uchod yn derbyn taliadau awtomatig, nid yw'n ofynnol i'r busnesau hyn ailgofrestru eu manylion.
Bydd y grantiau hyn hefyd ar gael i fusnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden / sefydliadau lletygarwch, twristiaeth a hamdden dielw a'u cadwyni cyflenwi a busnesau manwerthu sydd ag eiddo cymwys a all ddangos (ar sail hunan-ddatganedig) gostyngiad o fwy na 40% mewn trosiant o ganlyniad uniongyrchol y cyfyngiadau newydd.
Gofynnir i'r busnesau hynny ddatgan a ydynt wedi gweld gostyngiad o 40% yn y trosiant ar gyfer mis Rhagfyr 2020 o gymharu â mis Rhagfyr 2019. Os nad oedd y busnes yn masnachu ym mis Rhagfyr 2019, dylai'r gymhariaeth mewn trosiant fod ar gyfer y trosiant misol ar gyfer mis Rhagfyr 2020 yn erbyn Medi 2020. Rhaid i'r gostyngiad yn y trosiant fod o ganlyniad uniongyrchol y cyfyngiadau newydd a gyflwynwyd ar 4 Rhagfyr ac ers hynny.
Nid oes angen i fusnesau lletygarwch, busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol a sefydliadau dielw wneud unrhyw fath o hunan-ddatganiad mewn perthynas â'u trosiant.
Rhaid bod hereditament yr ymgeisydd wedi bod ar restr ardrethi NDR ar 1 Medi 2020 a rhaid bod y trethdalwr fod wedi meddiannu'r eiddo ar 30 Tachwedd 2020.
I gael gwybodaeth bellach darllenwch Ddogfen Ganllaw Grant NDR y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau
Gallwch wneud cais am y Grant NDR y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau yma.
Grant y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau (Dewisol): Yn cau 5pm 27ain Ionawr 2021
Mae grant dewisol o £2,000 ar gael i gynorthwyo busnesau sydd:
I gael gwybodaeth bellach darllenwch Ddogfen Ganllaw Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau.
Ni all busnesau wneud cais am y grant NDR a'r Grant Dewisol.
Gallwch wneud cais am Grant y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau yma.
Grant y Gronfa Cadernid Economaidd (ERF) i Sectorau Penodol:Yn cau am 12:00 canol dydd ddydd Gwener 29 Ionawr 2021
Mae pecyn y Gronfa Cadernid Economaidd (ERF) ar gyfer Sectorau Penodol (cost gweithredu) wedi'i dargedu at fusnesau Lletygarwch, Twristiaeth a Hamdden a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig a fydd yn cael eu heffeithio'n sylweddol gan effaith o fwy na 60% ar drosiant o ganlyniad i'r cyfyngiadau a gyflwynwyd ar 4 Rhagfyr 2020 tan 22 Ionawr 2021.
https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy
Gall busnesau sydd wedi cyrchu'r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau yr ERF hefyd wneud cais i'r gronfa hon.
Gall busnesau ledled Cymru ddarganfod a allant wneud cais am arian o drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd Gronfa Cadernid Economaidd
Bydd y gwiriwr cymhwysedd yn galluogi busnesau i weld a allant gael mynediad i gyfran o £80 miliwn y gronfa a fydd yn cefnogi cwmnïau gyda phrosiectau a all eu helpu i drosglwyddo i economi'r dyfodol.
O'r swm hwn, bydd £20 miliwn wedi'i glustnodi i gefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch sy'n wynebu heriau penodol a ninnau ar drothwy'r gaeaf.
Bydd gwerth £80 miliwn o grantiau datblygu busnes yn agored i ficro fusnesau, busnesau bach a chanolig a busnesau mawr.
-
Bydd micro fusnesau (sy'n cyflogi rhwng 1 a 9 o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £10,000 ar yr amod eu bod yn darparu buddsoddiad cyfatebol eu hunain o 10 y cant o leiaf
-
Bydd BBaChau (sy'n cyflogi rhwng 10 a 249 o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £150,000 ar yr amod eu bod yn darparu buddsoddiad cyfatebol eu hunain o 10% o leiaf ar gyfer busnesau bach (1-49 o staff) ac 20% o leiaf ar gyfer busnesau canolig (50-249)
-
Bydd busnesau mawr (sy'n cyflogi 250+ o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £200,000 ar yr amod eu bod yn darparu buddsoddiad cyfatebol eu hunain o 50% o leiaf
Gallwch wneud cais i’r gronfa grantiau o 26 Hydref 2020 am pedwar wythnos.
Grant Rhwystrau Busnes Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhaglen o gymorth cyflogaeth a sgiliau i helpu pobl i fynd yn ôl i’r gwaith fel rhan o’r ymrwymiad COVID 19
Mae rhan o’r rhaglen hon yn cynnwys cefnogaeth ychwanegol i unigolion sy’n ystyried bod yn hunangyflogedig. Yn ogystal â’r gwasanaeth cychwyn busnes presennol, mae grant ar gael i gefnogi unigolion di-waith sy’n wynebu mwy o rwystrau economaidd wrth ddechrau busnes. Bydd y grant dewisol hwn yn helpu hyd at 600 o unigolion i ddod yn hunangyflogedig neu i ddechrau busnes rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Mawrth 2021.
Bydd y grant ar agor i bob unigolyn di-waith, ond rhoddir blaenoriaeth i’r rheini y mae Covid-19 wedi effeithio fwyaf arnynt:
Bydd unigolion yn gallu gwneud cais am hyd at £2,000 i gyfrannu tuag at gostau hanfodol dechrau busnes.
Rheolir y grant drwy wasanaeth Busnes Cymru.
Bydd y gronfa’n agor ar gyfer ceisiadau ar 1 Rhagfyr 2020.
Am ragor o fanylion, ewch i dudalennau Grant Rhwystrau Busnes Cymru
Grant Busnesau Newydd Torfaen
Nawr wedi eu dyrannu’n llawn (Ar Gau)
Grant Ardrethi Busnes
Ceisiadau wedi cau am 5pm 30ain Mehefin 2020
Banc Datblygu Cymru
Ewch i’r wefan i gael gwybod rhagor am yr opsiynau ariannu sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Cefnogaeth Ariannol Llywodraeth y DU:
Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CCC) nawr wedi ei ymestyn hyd at ddiwedd mis Ebrill 2021
Ar ôl cyhoeddiad yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU y bydd y CCSC yn cael ei ymestyn hyd at 2 Rhagfyr, mae’r cynllun nawr wedi ei ymestyn hyd at ddiwedd mis Ebrill 2021.
Pwyntiau allweddol:
-
Bydd y CCSC estynedig yn gweithredu fel y Cynllun blaenorol, gyda busnesau yn gallu hawlio naill ai yn fuan cyn, yn ystod neu ar ôl rhedeg y gyflogres. Gellir hawlio o 8am dydd Mercher 11 Tachwedd. Rhaid cyflwyno ceisiadau i CThEM erbyn 14 Rhagfyr 2020 fan bellaf.
-
Nid oes angen i gyflogwyr fod wedi derbyn CCSC o’r blaen a gall cyflogwyr ledled y DU hawlio os yw’r busnes ar agor neu ar gau
-
30 Tachwedd 2020 yw’r diwrnod olaf pan all cyflogwyr gyflwyno neu newid ceisiadau ar gyfer cyfnodau sy’n dod i ben ar neu cyn 31 Hydref 2020.
Rhaid i geisiadau o 1 Tachwedd 2020 gael eu cyflwyno erbyn 11.59pm 14 diwrnod calendr ar ôl y mis rydych yn hawlio amdano. Os yw’r amser hwn yn syrthio ar y penwythnos, yna dylid cyflwyno ceisiadau ar y diwrnod gwaith nesaf.
Hawlio am ffyrlo yn | Rhaid hawlio erbyn |
Tachwedd 2020
|
14 Rhagfyr 2020
|
Rhagfyr 2020
|
14 Ionawr 2021
|
Ionawr 2021
|
15 Chwefror 2021
|
Chwefror 2021
|
15 Mawrth 2021
|
Mawrth 2021
|
14 Ebrill 2021
|
Ebrill 2021
|
14 Mai 2021
|
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen yr wybodaeth lawnach a manylion pellach y cynllun ar y ddolen isod, sy’n rhoi manylion ar, er enghraifft:
-
Meini prawf craidd cyflogadwyedd
-
Gweithwyr na hawliwyd amdanynt o’r blaen dan CCSC
-
Gweithwyr a ail-gyflogir gan eu cyflogwr
-
Pan fydd gweithwyr ar ffyrlo
-
Amodau eraill hawlio CCSC
-
Gwneud cais
https://www.gov.uk/government/publications/extension-to-the-coronavirus-job-retention-scheme/extension-of-the-coronavirus-job-retention-scheme
Y Cynllun Cefnogi Swyddi: Wed ei Ohirio
Cynllun Cymorthdal Incwm Hunangyflogaeth: Estyniad i grant
Mae’r grant yn cael ei ymestyn o 1 Tachwedd 2020
3ydd grant nawr ar agor i geisiadau
I fod yn gymwys ar gyfer yr Estyniad yn y Grant, rhaid i unigolion hunangyflogedig, gan gynnwys aelodau partneriaethau:
-
fod wedi bod yn gymwys o’r blaen am grant cyntaf ac ail grant y Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig (er nad oes rhaid eu bod wedi hawlio’r grantiau blaenorol)
-
datgan eu bod yn bwriadu parhau i fasnachu a naill ai:
-
eu bod yn masnachu ar hyn o bryd ond yn cael eu heffeithio gan lai o alw oherwydd coronafeirws
-
eu bod wedi bod yn masnachu o’r blaen ond dydyn nhw ddim yn gallu gwneud hynny am y tro oherwydd coronafeirws
Beth sy’n cael ei gynnwys yn estyniad y Grant
Bydd yr estyniad yn para chwe mis, o Dachwedd 2020 tan Ebrill 2021. Bydd grantiau’n cael eu talu mewn dau daliad, pob un ar gyfer cyfnod o dri mis.
Bydd y trydydd grant dros gyfnod o 3 mis o 1 Tachwedd 2020 tan 31 Ionawr 2021. Bydd y Llywodraeth yn rhoi grant trethadwy wedi ei gyfrif yn ôl 80% o elw ar gyfartaledd dros 3 mis, wedi ei dalu mewn un taliad a gydag uchafswm o £7,500. Mae hyn yn gynnydd o’r 55% a gyhoeddwyd gynt https://www.gov.uk/guidance/claim-a-grant-through-the-coronavirus-covid-19-self-employment-income-support-scheme.cy
Bydd y pedwerydd grant dros gyfnod o dri mis o 1 Chwefror 2021 tan 30 Ebrill 2021. Bydd y Llywodraeth yn adolygu lefel yr ail grant ac yn pennu hyn yn y man
Mae’r grantiau’n incwm trethadwy ac yn destun cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Cefnogaeth Ariannol Bellach
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno pecyn o fesurau i amddiffyn busnesau yn ystod y cyfnod yma o ymyrraeth a achosir gan COVID-19. Gallai busnesau yng Nghymru elwa o’r cynlluniau canlynol trwy Lywodraeth y DU:
-
Cefnogaeth i fusnesau trwy Gynllun Benthyciadau Ymyrraeth Busnes trwy’r Coronafeirws
-
Cefnogaeth i fusnesau dalu treth
-
Cefnogaeth i BBChau sy’n gorfod talu tâl salwch i’w staff
-
Amddiffyniad pellach i fusnesau gyda gwaharddiad ar droi allan o denantiaeth i denantiaid masnachol sy’n methu taliadau rhent
https://www.gov.uk/government/collections/financial-support-for-businesses-during-coronavirus-covid-19#support-for-businesses-paying-tax
Yn yr argyfwng economaidd digyffelyb yma, bydd Cyngor Torfaen yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Coronafeirws i fusnesau trwy’r dudalen Cefnogaeth i Fusnes yma. Bydd yn cael ei diweddaru’n rheolaidd.
Gallwch hefyd danysgrifio am ddim i dderbyn negeseuon e-bost. Tanysgrifiwch
Gallwch hefyd fynd i wefan cyngor Torfaen i gael gwybodaeth ychwanegol ac ar gyfer busnesau a’r economi
Updated 25th January 2021