Rhaglen Gwella Cynhyrchedd

Business Wales - LADY BY MACHINE (940x475) WELSH_1

Lansiwyd Rhaglen Gwella Cynhyrchedd Llywodraeth Cymru yn Nhorfaen ddiwedd 2020 ar ôl llwyddiant eang mewn ardaloedd eraill

Mae’r rhaglen gefnogaeth yma, sydd wedi ei hanelu at weithgynhyrchwyr, yn cynnwys arian ar gyfer gwariant cyfalaf mewn technolegau newydd ac yn helpu busnesau i symud at y lefel nesaf.

Nod y rhaglen yw cynyddu effeithlonrwydd, datblygu cynhyrchion newydd ac archwilio marchnadoedd newydd yn y busnes. Neilltuir Rheolwr Perthynas Llywodraeth Cymru ac Arbenigwr Arloesi i bawb sy'n cymryd rhan yn y cynllun i'w helpu i adolygu dulliau gwella cynhyrchiant a'u cefnogi trwy'r broses ymgeisio sy'n ystyriol o fusnesau.

Darperir cyngor gweithgynhyrchu arbenigol trwy ymgynghoriaeth cynhyrchiant wedi'i ariannu, sydd wedi helpu busnesau bach a chanolig gyda chyngor ynghylch cynlluniau ffatri, awtomeiddio heriau digidol, heriau gweithgynhyrchu technegol a gofynion marciau ansawdd.

Os ydych chi’n fusnes gweithgynhyrchu sydd wedi ei leoli yn Nhorfaen a hoffai archwilio ymhellach i’r rhaglen hon, a fyddech cystal ag e-bostio: info@southwalesbusiness.co.uk

Astudiaethau Achos Torfaen