Case Study: Brick Fabrication Ltd and Frog Bikes Manufacturing
Cwmnïau Gweithgynhyrchu Torfaen yn codi i'r lefel nesaf gydag arian Rhaglen Gwella Cynhyrchiant

Mae Brick Fabrication Ltd a Frog Bikes Manufacturing wedi derbyn arian grant gan Raglen Gwella Cynhyrchiant Llywodraeth Cymru ac wedi codi’n llwyddiannus at y lefel nesaf. Lansiwyd y rhaglen yn Nhorfaen yn Nhachwedd 2020 gan dîm Economi a Mentergarwch Torfaen mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ar ôl llwyddiant mewn ardaloedd eraill.
Ar ôl adolygiad o welliant cynhyrchiant, mae’r ddau gwmni’n elwa nawr o wariant cyfalaf mewn technolegau newydd sydd wedi eu galluogi i gyflwyno mesurau effeithlonrwydd o ran cynhyrchiant a chost, datblygiad a dyluniad cynnyrch newydd yn ogystal â systemau profi newydd. Dim ond dau o’r busnesau gweithgynhyrchu yn Nhorfaen sy’n cymryd rhan yn y rhaglen ar hyn o bryd yw’r rhain.
Dywedodd Matthew Younger, cyfarwyddwr yn Brickfab “Ar ôl adolygiad o weithgareddau’r busnes yn yr Adran Blastig wedi’i Atgyfnerthu â Gwydr Ffeibr, nodwyd gwelliannau allweddol yng ngosodiad y ffatri, technolegau newydd a’r profi angenrheidiol am gyfer ystod newydd o gynhyrchion.
Mae’r grant wedi caniatáu i waith adeiladu fynd ymlaen yn y ffatri, gan greu llif mwy rhwydd mewn cynhyrchu, yr oedd ei angen i ymdopi gyda’r galw ychwanegol. Mae technegau cynhyrchu ac offer newydd wedi eu cyflwyno i wneud cynhyrchiant yn fwy hyblyg gyda gostyngiad mewn cost ac amser i greu mowldiau newydd, sydd wedi bod yn welliant sylweddol.
Mae cynnyrch newydd wedi bod trwy brofi trydydd parti, ac mae cynhyrchu ystod newydd o gynhyrchion newydd wedi dechrau gydag archebion wedi eu derbyn eisoes ac mae’r archebion yn tyfu. Mae’n debygol y bydd yr adran yma yn Brickfab yn tyfu’n sylweddol yn y blynyddoedd nesaf ac mae’r cymorth grant wedi cyflymu’r cynnydd yma’n sylweddol.”
Dywedodd Rob Mason, Rheolwr Cyffredinol yn Frog Bikes Manufacturing “Mae’r rhaglen wedi’n galluogi ni i adeiladu adran o’r radd flaenaf i brofi cynnyrch yn ein ffatri ym Mhont-y-pŵl.”
“Rydym yn gwella dyluniad ein beiciau yn barhaus fel eu bod nhw’n cynrychioli’r dewis gorau posibl i blant, gan wneud yn siŵr eu bod mor ysgafn â phosibl gan fod yn gryf ac yn gydnerth hefyd. Wrth i ni wneud y newidiadau yma rydym am brofi’n beiciau’n gyflym o ran diogelwch a hirhoedledd. I wneud hyn mae angen i ni wneud profion dro ar ôl tro. Mae’r unig wasanaeth profi beiciau yn y DU wedi cau, felly roedd rhaid i ni wneud y gwaith yma’n fewnol. Mae cael y gallu i berfformio profion peirianyddol r ein beiciau hefyd yn cyflymu ein proses datblygu.”
“Mae’r rhaglen wedi ein helpu i ariannu costau adeiladu’r adran brofi, cael yr offer profi a gosod y meddalwedd. Bydd yn ein helpu i gryfhau ac amddiffyn ein mantais gystadleuol yn wyneb ein cystadleuwyr byd-eang.”
Ynglŷn â’r Rhaglen Gwella Cynhyrchiant
Mae’r rhaglen yn ceisio cynyddu effeithlonrwydd, datblygu cynnyrch newydd ac edrych am farchnadoedd newydd o fewn y busnes. Mae cyfranogwyr yn cael eu cysylltu â Rheolwr Perthynas ar Arbenigwr arloesi gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i adolygu gwella cynhyrchiant trwy broses gymhwyso sy’n gyfeillgar i fusnes. Hefyd, rhoddir cyngor arbenigol ar weithgynhyrchu trwy ymgynghoriaeth cynhyrchiant sy’n gallu helpu gyda chyngor ar osodiad y ffatri, awtomeiddio a materion digidol, heriau gweithgynhyrchu technegol a gofynion marchnata o ansawdd.
Cysylltwch
Os ydych chi’n fusnes gweithgynhyrchu yn Nhorfaen fyddai’n hoffi edrych i mewn i’r rhaglen yma, cysylltwch â thîm Economi a Mentergarwch Torfaen:
E-bost: info@southwalesbusiness.co.uk
Ewch i Arloesedd SMART | Innovation (gov.wales)