Case Study: Pro Steel Engineering

Arbenigwyr dur o Bont-y-pŵl yn ennill cyllid allweddol ar gyfer buddsoddiad

Pro Steel Engineering Crane

Mae Pro Steel Engineering wedi llwyddo i gael arian grant oddi wrth Raglen Gwella Cynhyrchedd Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddiad allweddol. Lansiwyd y rhaglen yn Nhorfaen yn 2020 gan Dîm Economi a Mentergarwch Cyngor Torfaen mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac mae hi wedi gweld swm sylweddol o fuddsoddiad cyfalaf yn cael ei roi i sector gweithgynhyrchu Torfaen.

Mae’r cwmni dur arbenigol o Bont-y-pŵl, Pro Steel Engineering, wedi gwneud defnydd da o’r grant o £25,000 trwy brynu craeniau newydd. Bydd y buddsoddiad yn galluogi capasiti codi dwbl mewn un gilfach yn y ffatri, a chefnogaeth sylweddol mewn cilfach arall.  Yn allweddol, ac o fudd sylweddol, yw’r gallu nawr i ddefnyddio craeniau ychwanegol ar yr un pryd â’r craen presennol, rhywbeth a fydd yn cynyddu cynhyrchedd a lleihau’n sylweddol yr amser y mae staff wedi gorfod aros am offer codi yn y gorffennol. 

Dywedodd Richard Selby, cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Pro Steel Engineering: “Daeth y buddsoddiad yma ar yr adeg iawn i ni. Rydym mewn cyfnod o dwf ac bydd cael y gallu nawr i ddefnyddio nifer o graeniau ar yr un adeg nid yn unig yn arbed amser i’r tîm, ond bydd hefyd yn ein galluogi i gynllunio ar gyfer prosiectau mwy a gwaith a mwy proffidiol i gleientiaid. Diolch i Lywodraeth Cymru a Chyngor Torfaen am y grant ac rydym yn edrych ymlaen at wneud y mwyaf o osod yr offer.”

Ynglŷn â’r Rhaglen Gwella Cynhyrchedd

Mae’r rhaglen yn ceisio cynyddu effeithlonrwydd, datblygu cynhyrchion newydd ac edrych ar farchnadoedd o fewn y busnes. Bydd Rheolwr Perthynas Llywodraeth Cymru ac Arbenigwr Arloesi yn cael eu neilltuo i’r rheiny sy’n cymryd rhan i helpu i adolygu gwelliant cynhyrchedd a’u cefnogi trwy’r broses geisio sy’n gyfeillgar i fusnesau. Ar ben hynny, rhoddir cyngor gweithgynhyrchu arbenigol trwy ymgynghoriaeth cynhyrchedd sy’n cael ei ariannu ac a all helpu gyda chyngor o gylch gosodiad y ffatri, awtomeiddio a digidol, heriau gweithgynhyrchu technegol a gofynion nodau ansawdd.

Cysylltwch

Os ydych chi’n fusnes gweithgynhyrchu yn Nhorfaen a fyddai’n hoffi edrych i mewn i’r rhaglen yma, cysylltwch â thîm Economi a Mentergarwch Torfaen:  

E-bost: info@southwalesbusiness.co.uk             

Ewch i https://businesswales.gov.wales/innovation/cy/arloesedd-smart