Cefnogaeth Glanio Llyfn y Gwanwyn

Springboard Business Innovation Centre

Gofod swyddfa am ddim am 3 mis i sefydlu eich busnes technegol yn Springboard.

Mae Canolfan Arloesi Busnes Springboard ~ Cymru yma i annog a chefnogi busnesau gwyddoniaeth a thechnoleg uchel eu twf. Yng Nghwmbrân ac o fewn ychydig funudau i goridor y M4.

Dyma rai o’r rhesymau dros wneud Springboard yn gartref i’ch busnes:

  • Rydym yn helpu busnesau gwyddoniaeth a thechnoleg newydd a chychwynnol i oresgyn rhwystrau ac yn darparu amgylchedd ble gallan nhw ffynnu. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau deori i gwmnïau sydd am ddod i’r farchnad Gymreig, Brydeinig neu Ewropeaidd.
  • Mae gan Springboard 35 o unedau deori o wahanol feintiau
  • Cytundeb tenantiaeth 12 mis gyda thelerau i mewn yn hawdd allan yn hawdd
  • Mae’r nawdd yn berthnasol i uned fach o 18.8 metr sgwâr (202 tr. sgwâr) yn unig

Yr hyn yr ydym yn ei gynnig:

  • Cyngor busnes – mae gennym gysylltiadau cryf gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol
  • Cyfleoedd i rwydweithio
  • Cysylltiadau gydag ymchwil a datblygiad
  • Derbynfa
  • Ystafelloedd cyfarfod, ystafell fwrdd, mannau ymneilltuo
  • Codi proffil eich cwmni
  • Llety hyblyg
  • Gofod i dyfu

Cofrestrwch eich diddordeb yma a byddwn yn trefnu ymweliad i drafod eich ymholiad ymhellach 

 

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

 

Levelling Up Logo          Levelling Up Logo         UK Government Wales Logo