Ffrydiau Nawdd Eraill
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda’n gilydd ar gyfer swyddi gwell, iechyd gwell, amgylchedd gwyrddach ac economi mwy ffyniannus – dyma genhadaeth Strategaeth arloesi newydd i Gymru sy’n cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru .
Gallwch lawrlwytho canllawiau ar gyfer pob un o’r rhaglenni isod:
Cymorth Arloesi Hyblyg
Mae Llywodraeth Cymru yn adeiladu gwlad gryfach, decach a gwyrddach, gydag economi sy’n seiliedig ar waith teg, cynaliadwyedd a sectorau’r dyfodol.
Mae’n cefnogi Ymchwil, Datblygu ac Arloesi sy’n cael eu hysgogi gan alw, a chydweithredu effeithiol sy’n sicrhau buddion gwirioneddol ar gyfer pobl a’r amgylchedd.
Cyllid yr Economi Gylchol
Yn cyd-fynd â'r Strategaeth Arloesi, mae Cronfeydd yr Economi Gylchol ar gael i sefydliadau trwy eu gweithgareddau arloesi arfaethedig
- Yn cefnogi buddsoddiad i gynyddu'r defnydd o gynnwys wedi'i ailgylchu a'i ailddefnyddio mewn cynhyrchion neu gydrannau neu i ymestyn oes cynhyrchion/deunyddiau
- Bydd gweithgareddau yr Economi Gylchol yn cael eu cefnogi drwy'r Gronfa Economi Gylchol a bydd unrhyw weithgareddau arloesi am ddim yn cael eu cefnogi drwy’r Gefnogaeth Arloesedd Hyblyg SMART
Uwchsgilio eich gweithwyr gyda Phrosiectau Partneriaeth y Rhaglen Sgiliau Hyblyg
Ydy sgiliau cyfredol eich busnes yn cyfyngu ar ei lwyddiant? Ydy’ch busnes chi'n ystyried cyfle busnes newydd, technoleg newydd, cynllun ehangu a thwf?
Mae’n bosib iawn y gall ein rhaglenni eich helpu chi gyda chymorth ariannol tuag at uwchsgilio'ch staff.
Cefnogi eich taith allforio
Nod Cymorth ar gyfer Ymweliadau Tramor i Ddatblygu Busnesau yw darparu cymorth a chefnogaeth i gwmnïau (Mentrau Bach a Chanolig a mawr) i gynnal gweithgareddau a phrosiectau rhyngwladol i ddatblygu masnach. Gall gefnogi gweithgareddau nad oes mod eu cefnogi o ffynonellau arian cyhoeddus eraill yn unig (e.e. cenadaethau masnachu, dirprwyaethau i arddangosfeydd).
Rydyn ni yma i ddod ag uchelgeisiau yn fyw a thanio posibiliadau i bobl, busnesau a chymunedau yng Nghymru.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym yn cynnig cyllid a mwy i fusnesau yng Nghymru.
Benthyciadau busnes
Cyllid ecwiti
Ymchwil
Angylion Buddsoddi Cymru
Rhaglen Gwella Cynhyrchedd yn Nhorfaen i wneuthurwyr yn Nhorfaen
Mae’r rhaglen gefnogaeth yma, sydd wedi ei hanelu at weithgynhyrchwyr, yn cynnwys arian ar gyfer gwariant cyfalaf mewn technolegau newydd ac yn helpu busnesau i symud at y lefel nesaf.
‘Dod o Hyd i Gyllid’ Llywodraeth Cymru/Busnes Cymru