Llais Busnes Torfaen (Clwb Busnes)

Torfaen Business Voice Logo

Gwnewch 2023 y flwyddyn y byddwch chi’n dod yn rhan o’ch rhwydwaith busnes lleol ac yn cwrdd â busnesau tebyg yn ardal Torfaen.

Llais Busnes Torfaen yw clwb busnes ffyniannus Torfaen sy’n bod ers dros 23 mlynedd. Gyda thua deg a thrigain o aelodau o sectorau a meintiau amrywiol, o fusnesau cychwynnol newydd sbon i fusnesau bach a chanolig sydd wedi eu hen sefydlu, gyda phrofiad helaeth sy’n cael ei rannu yn y digwyddiadau rhwydweithio poblogaidd.

Mae’r clwb yn cael ei redeg gan bwyllgor o fusnesau, sy’n rhan annatod o’i lwyddiant. Mae’r aelodau yma o’r pwyllgor yn awyddus i wneud gwahaniaeth a llywio’r clwb i’r cyfeiriad y mae’r aelodau’n penderfynu. 

Rydym yn cynnig dwy lefel o aelodaeth: 

  • Adnewyddiad Aelodaeth Lawn
  • Cyfradd gychwynnol i Aelodau Newydd neu fusnesau cychwynnol am £48.00 gan gynnwys TAW*
    • i fusnesau gydag 1-10 o gyflogeion am £60.00 gan gynnwys TAW 
    • i fusnesau gyda dros 10 o gyflogeion am £80 gan gynnwys TAW

*Mae’r aelodaeth Newydd/Cychwynnol i gwmnïau sydd yn eu blwyddyn gyntaf o fasnachu ac i aelodau newydd, sydd ddim wedi bod yn aelod o’r Clwb Busnes o’r blaen. Mae’r aelodaeth yma am un flwyddyn galendr o Ionawr tan Ragfyr. 

Buddion Aelodaeth

Mae Llais Busnes Torfaen yn cynnig gwerth ardderchog am arian nifer o fanteision i chi a’ch busnes gan gynnwys:

  • Lle yn ein cyfarfodydd, sy’n digwydd bob chwarter.  Mae’r cyfarfodydd yn cynnwys sesiynau rhwydweithio, cyngor cymorth busnes a siaradwyr gwadd ysbrydoledig
  • Cyfleoedd amrywiol i rwydweithio gyda digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn
  • Bwletinau trwy e-bost gyda gwybodaeth am ariannu sydd ar gael, rhaglenni hyfforddiant, digwyddiadau rhwydweithio yn ogystal â chyfleoedd eraill a allai fod o fudd i fusnesau yn Nhorfaen
  • Gwybodaeth am ddigwyddiadau busnes, gan gynnwys brecwastau busnes, gweithdai a seminarau a gynhelir gan sefydliadau partner

Ymunwch nawr trwy gwblhau Ffurflen gais Llais Busnes Torfaen.  Gellir talu trwy’r ddolen yma  Byddwn yn cadarnhau eich aelodaeth unwaith y bydd y ffurflen wedi ei chwblhau’n gyflawn a’r taliad ill dau wedi eu derbyn.

Edrychwn ymlaen ar eich croesawu i Lais Busnes Torfaen.  Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cyn ymaelodi, cysylltwch â ni trwy businessdirect@torfaen.gov.uk, neu ffoniwch  01633 648735