Bob blwyddyn, hysbysebir biliynau o bunnoedd o gontractau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau sector cyhoeddus drwy Sell2Wales.
Ydych chi'n barod i ddatgloi cyfleoedd busnes newydd yng Nghymru?
Ymunwch â'n cyflwyniad ar-lein 2 awr i’r platfform, porth ffynhonnell gwybodaeth a chaffael i'ch helpu i gael mynediad at farchnadoedd newydd a thyfu eich busnes.
Uchafbwyntiau:
• Dysgwch am nodweddion y platfform a sut y gall fod o fudd i'ch busnes.
• Sut i ennill contractau gyda'r sector cyhoeddus ledled Cymru, hyrwyddo eich gwasanaethau, a dod o hyd i gyfleoedd contractau.
• Canllaw ymarferol ar sut i lywio a defnyddio'r platfform yn effeithiol.
• Sesiwn Holi ac Ateb
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i ennill busnes newydd yng Nghymru!
Cofrestrwch nawr a chymerwch y cam cyntaf tuag at ehangu eich cyrhaeddiad.