Ynglŷn â Thorfaen
Lleoliad strategol yn ne ddwyrain Cymru

Mae gan Dorfaen 91,200 o drigolion ar draws tair cymuned allweddol:
- Cwmbrân – tref fodern, brysur gyda chymysgedd o fusnesau ariannol, yswiriant a Fintech gan gynnwys Canolfan Arloesi Busnes Springboard sy’n darparu cefnogaeth i fusnesau arloesi, technoleg a Fintech uchel eu twf.
- Pont-y-pŵl – tref draddodiadol yn y cymoedd a chartref amrywiaeth eang o fusnesau gweithgynhyrchu a pheirianneg.
- Blaenafon – cartref Safle Treftadaeth y Byd gan gynnwys Big Pit a sylfaen draddodiadol gref mewn peirianneg a gweithgynhyrchu.
Mae Torfaen wedi ei lleoli’n wych gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog.
- Mae Cwmbrân ychydig o funudau i ffwrdd o draffordd y M4 (cyffyrdd 25a/26) ac yn agos at Bont Hafren
- Llai na 40 munud i Fryste a Chaerdydd, gyda Llundain a Birmingham dim ond 2 awr i ffwrdd.
- Ffordd newydd ar Flaenau’r Cymoedd sy’n golygu y bydd Abertawe dim ond 40 munud i ffwrdd o Flaenafon.
- Yn agos mae gorsaf rheilffordd Cwmbrân, Pont-y-pŵl a Chasnewydd sy’n cynnig trafnidiaeth uniongyrchol â chysylltiadau cyflymder uchel i ddinasoedd mawr yn y DU ac Ewrop. Mae Pont-y-pŵl yn cael ei gwella gyda phlatfformau a chyfleusterau newydd.
- Mae meysydd awyr Caerdydd, Bryste a Birmingham o fewn cyrraedd rhwydd ac yn cynnig teithiau domestig, Ewropeaidd a rhyngwladol.