Llais Busnes Torfaen - Mehefin 2024

Allweddeiriau
Dyddiad o (dd/mm/bb)
Categori Digwyddiad
Back to Listing
Lleoliad
The Parkway Hotel & Spa - Cwmbran
Categori
Busnes
Dyddiad(au)
Dydd Iau 20th Mehefin 2024 (16:30-19:00)
Cyswllt
businessdirect@torfaen.gov.uk
Registration URL
https://eventpilot.evolutive.co.uk/eventDetails.aspx?siteId=467&eventNo=33383
Disgrifiad
Llais Busnes Torfaen - Mehefin 2024

Galwn ar holl fusnesau Torfaen!

Dewch draw i Llais Busnes Torfaen!

Ydych chi'n berchennog busnes lleol neu'n entrepreneur yn Nhorfaen? Ydych chi am ehangu eich rhwydwaith, cael mewnwelediadau gwerthfawr, a chydweithio â gweithwyr proffesiynol o'r un anian? Peidiwch edrych dim pellach! Mae Llais Busnes Torfaen yma i'ch cysylltu â chymuned ddeinamig o selogion busnes.

Pam ymuno â Llais Busnes Torfaen?

1. Cyfleoedd rhwydweithio: Cwrdd â chyd-fusnesau, cyfnewid syniadau, ac adeiladu perthnasoedd parhaol. P'un a ydych chi'n fusnes cychwynnol neu'n fusnes sefydledig, mae rhwydweithio yn hanfodol ar gyfer twf.

2. Rhannu Gwybodaeth: Siaradwyr gwadd. Dysgwch gan arbenigwyr y diwydiant a gwella eich ymwybyddiaeth busnes.

3. Cydweithredu: Darganfod partneriaethau posibl, mentrau ar y cyd, a synergeddau busnes.

4. Amlygrwydd: Cyflwynwch eich busnes i gynulleidfa ehangach. Mae Llais Busnes Torfaen yn darparu llwyfan i chi hyrwyddo'ch cynhyrchion a'ch gwasanaethau.

5. Cymuned Gefnogol: Ry'n ni'n fwy na dim ond clwb; Ry'n ni'n gymuned gefnogol. Rhannwch eich heriau, dathlwch llwyddiannau a dewch o hyd i anogaeth pan fydd ei hangen arnoch fwyaf.

Mae gyda ni ychydig o opsiynau prisio ar gael i fusnesau sydd am ymuno â Llais Busnes Torfaen;

Aelodaeth Flynyddol £50 + TAW - aelodaeth treigl 12 mis o'r dyddiad talu yw hwn

Talu Fesul Digwyddiad £20 + TAW - yn gwneud beth mae'n ei ddweud ar y tun!  Ddim yn gallu mynychu pob un o'r 4 digwyddiad?  Talwch am un neu ddau y’ch chi yn!

Sesiwn Blasu AM DDIM - mae hwn ar gyfer busnesau sydd am ddod draw i weld beth sydd gan Llais Busnes Torfaen i'w gynnig.