Amdanom Ni

Mae Canolfan Arloesi Busnes Springboard ~ Cymru ym Mharc Llantarnam, Cwmbrân, De Cymru, 4 munud o draffordd yr M4 (lawrlwythwch fap o’r lleoliad yma). Mae’r Ganolfan Arloesi’n darparu gofod ar gyfer magu busnesau gwyddoniaeth a thechnoleg ifainc ac yn cynnig swyddfeydd modern, hyblyg gyda mynediad uniongyrchol at amrywiaeth o wasanaethau cymorth busnes arbenigol.

Mae adeilad Springboard yn ddatblygiad tri llawr o ansawdd uchel, ac mae yma 35 ystafell magu busnes, derbynfa, ystafell reoli ac ardaloedd ymneilltuo modern.

Amrywia’r gofodau busnes o 20 metr sgwâr (210 troedfedd sgwâr.) i 105 metr sgwâr (1,126 troedfedd sgwâr.) maen nhw ar gael ar delerau 'i mewn yn hawdd, allan yn hawdd'.  Yn ychwanegol at hyn, gall Springboard ddarparu cyfleusterau desg gynnes ac mae’n cynnig gwasanaethau magu busnes wrth ymsefydlu, i fusnesau sydd am dorri i mewn i farchnadoedd Cymru, y Deyrnas Unedig neu Ewrop.

Cynigir y gofodau busnes ar gytundeb tenantiaeth o 12 mis, gyda thelerau 'i mewn yn hawdd, allan yn hawdd'.

Pam Ymuno â Chanolfan Arloesi Busnes Springboard ~ Cymru?

“Ffactor sylweddol wrth i ni ehangu oedd ansawdd cyfleusterau Springboard a lefel uchel y cymorth a ddarperir gan y tîm. Er bod gan fwrdd Ascendant Technologies brofiad busnes sylweddol, mae tîm Springboard wedi camu i mewn yn ôl yr angen. Mae’r gefnogaeth a ddarperir yn gynhwysfawr ond heb amharu”. Mike Wainwright, Cyfarwyddwr, Ascendant Technologies Ltd

“Gellir diolch i ddiwylliant deinamig a strwythur hyblyg Springboard am ran o’n llwyddiant. Mae’r cymorth ar y safle, y cyngor arbenigol a’r gallu i symud o fewn yr adeilad wedi’n galluogi ni i reoli tyfiant ein cwmni”. David Harlow, Cyfarwyddwr, Quote Exchange Ltd

Rydyn ni’n helpu busnesau gwyddoniaeth a thechnoleg newydd, a rhai sydd yn eu camau cynnar, i oresgyn rhwystrau i lwyddiant ac i ddarparu amgylchedd ble allan nhw ffynnu. Rydyn ni hefyd yn lleoliad i gwmnïau rhyngwladol sy’n edrych am sbardun i mewn i farchnadoedd Cymru, y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Mae Springboard wedi creu diwylliant deinamig a gynlluniwyd i gefnogi busnesau gwyddoniaeth a thechnoleg ifainc sy’n tyfu’n gyflym. Mae manteision ymuno â’r ganolfan yn cynnwys:

  • Codi proffil eich cwmni – Fe fydd cyfuniad o ofod busnes o ansawdd uchel a gwasanaethau cymorth ar y safle yn eich helpu i greu delwedd broffesiynol ar gyfer eich cwmni.
  • Gofod hyblyg– Mae gan Springboard 35 ystafell magu busnes, yn amrywio o ran maint o 20 metr sgwâr (210 troedfedd sgwâr) i 105 metr sgwâr (1,126 troedfedd sgwâr). Mae pob gofod magu busnes ar gael ar gytundeb tenantiaeth o 12 mis, gyda thelerau 'i mewn yn hawdd, allan yn hawdd'. Yn ychwanegol at hyn, gall Springboard ddarparu cyfleusterau desg gynnes a gwasanaethau magu busnes wrth ymsefydlu i fusnesau sydd am dorri i mewn i farchnadoedd Cymru, y Deyrnas Unedig neu Ewrop.
  • Cyfleusterau Swyddfa Modern– Y gofod diweddaraf gyda chysylltedd band eang uchel, VOIP, gwasanaeth derbynfa, ystafelloedd cyfarfod, ystafell bwrdd, ardaloedd ymneilltuo a gwasanaethau arlwyo (allanol).
  • Gofod tyfu ymlaen– Mae Springboard mewn parc busnes/diwydiannol modern yn Ne Ddwyrain Cymru, ble mae yna ddewis eang o eiddo masnachol o ansawdd uchel ar gael i gwmnïau sydd am symud ymlaen o’r ganolfan.
  • Cyfleoedd i rwydweithio– Rydyn ni wedi creu cymunedau hyfyw a chyffrous o fewn Springboard sy’n darparu cyfleoedd i rwydweithio a rhannu dysgu'n naturiol. Mae Springboard ei hun wedi ei rwydweithio i mewn i amrywiaeth eang o fusnesau a darparwyr cymorth busnes o fewn y sector cyhoeddus a phreifat. Mae’r rhwydweithiau hyn yn ymestyn o lefel ranbarthol i lefel genedlaethol ac i fyny i lefel ryngwladol.
  • Cefnogaeth ar gyfer Ymchwil a Datblygu– Mae gan Springboard gysylltiadau ag amrywiaeth o  ganolfannau academaidd o ragoriaeth mewn ymchwil.
  • Cyngor busnes– Mae gan Springboard gysylltiadau cryfion â darparwyr cymorth busnes lleol a chenedlaethol sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth hanfodol i helpu cwmnïau i dyfu a rheoli eu busnesau.
       

Gallwch lawrlwytho copi o Becyn Gwybodaeth Springboard yma.