Cyfleusterau
Mae Canolfan Arloesi Busnes Springboard ~ Cymru yn ddatblygiad tri llawr o ansawdd uchel sydd â lle i 35 gofod magu busnes a chymorth i fusnesau, gyda mynediad diogelwch 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.
Yn y ganolfan, darperir y gwasanaethau canlynol:
- Parcio ceir am ddim ar y safle (64 o leoedd yn amodol ar fod ar gael, gan gynnwys 2 gilfach parcio i’r anabl a gwefrwyr cerbydau trydan)
- Larwm diogelwch a chamerâu cylch cyfyng
- Monitro diogelwch tu allan i oriau swyddfa
- Gwasanaeth derbynfa i ymwelwyr (o ddydd Llun i ddydd Gwener)
- Trafod post
- Cysylltedd band eang - 100Mb
- Llinellau ffôn a ffôn
- Ffôn cynadledda
- Glanhau ardaloedd cymunol
- Tirlunio a chynnal a chadw’r tir
- Cawod
- Tair ystafell gyfarfod
Cynlluniau Llawr
Lawrlwythwch gopi o gynlluniau llawr Springboard
TG a Thelegyfathrebu
Fe fydd y cwmnïau hynny sy’n defnyddio Springboard yn gallu manteisio ar yr amrediad o gyfleusterau TG a thelegyfathrebu sydd gennym. Caiff cwmnïau fynediad at:
- Geblau strwythuredig ar draws yr adeilad
- Adeilad gyda chyfleuster di-wifr wedi ei alluogi
- Lled band uchel gyda chysylltedd gystadleuaeth at y rhyngrwyd
- Dyraniad IP Cyhoeddus
- Desg gymorth TG a thîm cymorth TG
- Cyfleuster galwadau cynadledda
Ystafelloedd Cyfarfod
Un o fanteision bod yn gwmni sy’n gweithio o ganolfan Springboard yw’r amrywiaeth o gyfleusterau rhad ac am ddim sydd gennym. Caiff ein hystafelloedd cyfarfod eu rheoli gan dîm y Dderbynfa ac maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd y byddwch am eu cynnal, ac ar gael i’w llogi. Mae ganddynt daflunydd, sgrin, fflipsiart/bwrdd gwyn ac uwchdaflunydd (os na fydd rhywun arall wedi eu llogi).
- Spring 1 – Ar y llawr cyntaf – gall yr ystafell hon gynnig lle i hyd at 14 o bobl ar eu heistedd.
- Spring 2 – Ar y llawr cyntaf – gall yr ystafell hon gynnig lle i hyd at 12 o bobl ar eu heistedd.
- Ystafell y Bwrdd – Ar yr ail lawr – gall yr ystafell hon gynnig lle i hyd at 24 o bobl ar eu heistedd.
Gwasanaethau Derbynfa
Un o fanteision bod yn gwmni sy’n gweithio o ganolfan Springboard yw’r amrywiaeth gynhwysfawr o wasanaethau derbynfa corfforaethol a gynigir. Mae ein tîm yn barod i helpu bob tro ac yn darparu gwasanaeth proffesiynol a chyfeillgar. Fe all cwmnïau sy’n gweithio yma ddefnyddio’r gwasanaethau canlynol:
- Rheoli ymwelwyr
- Gwasanaeth trafod post a pharseli
- Gwasanaeth llungopïo/sganio
- Rhwymo dogfennau
- Lamineiddio dogfennau
- Cydlynu’r gwasanaeth arlwyo
- Rheoli'r ystafelloedd cyfarfod