Lle i Gydweithio

Co-working Space

I ychwanegu at ei restr o gyfleoedd i'ch busnes, mae gan Springboard hefyd le i gydweithio.

Bydd ein lle agored, modern a gafodd ei ailwampio’n ddiweddar, yn rhoi gwefr newydd a chyffrous i chi, yn hytrach na gorfod gweithio o gartref.

P’un a ydych yn bachu desg am y dydd, rhentu desg barhaol mewn lle cydweithio, neu hyd yn oed rhentu ein swyddfa achlysyrol mae’r cyfan yn disgwyl amdanoch. Mae ein tîm cymorth arbenigol wrth law i sicrhau bod pob manylyn wedi derbyn sylw, fel y gallwch chi fwrw ati i wneud eich gwaith.

Bydd yr Hwb yn cynnig yr holl bethau angenrheidiol sydd eu hangen arnoch i gynnal eich busnes mewn amgylchedd cysylltiedig, deniadol:

  • Spring hub logo (Welsh)Rhwydweithiwch yn ein hwb cydweithio 
  • Hyblygrwydd i weddu i’ch anghenion
  • Mae ein tîm yn y dderbynfa yma i’ch helpu a chyfarch gwesteion drwy gydol y dydd
  • Bydd cyfle i ddefnyddio’r ardal ymneilltuo
  • Gall cwsmeriaid sy’n cydweithio archebu ystafelloedd cyfarfod os oes angen lle preifat arnynt, a hynny am ostyngiad o 50% 
  • Wi-Fi safon busnes ac argraffydd a rennir
  • Chyfleusterau gwneud lluniaeth
  • Parcio am ddim, 5 munud o’r M4 
  • Pwyntiau Gwefru CT

Holwch am eich lle i gydweithio heddiw!

Ffôn: 01633 647800

E-bost: sicreception@torfaen.gov.uk